Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 23, 2012

O’r Ardd: Perlysiau a Chwyn

Diwrnod heulog ar y cyfan ac yn eithaf twym; mae’r paneli solar wedi bod yn gweithio’n galed. Ninnau hefyd, yn yr ardd a’r lleuarth, yn chwynnu ac yn hau. Gorchwyl y gŵr yw’r tato, ac fel arfer mae gyda ni ormod ar gyfer y lle sydd i gael iddyn nhw. Hyd yn hyn rwyf i wedi gwrthod gadael iddo balu lan y lawnt bach wrth y teras, ond rhaid bod yn wyliadwrus.

Yn y lawnt dechreuais i heddiw, ar fy ngliniau yn tynnu dant y llew a’r hen flodyn ymenyn ymlusgol. Nid achos eu bod nhw’n hyll, ond am eu bod nhw’n dwyn lle’r glaswellt.  Ar ôl awr neu ddwy roedd yn rhaid imi newid tasg, a phenderfynais symud y perlysiau sydd wedi egino yn ystod y pythefnos diwethaf i botiau, ar eu ffordd i fynd i’r ardd.

Gorthyfail, llysiau’r gwewyr a choriander wedi dod yn iawn, rhai ohonyn nhw dipyn bach yn wyn ac yn llipa. A’r persli? Dim golwg ohono, ond sdim ots achos mae cyfaill wedi cael peth ac fe allaf gyfnewid ychydig o orthryfail amdano.

A dyma nhw yn eu potiau. Dyw llysiau’r gwewyr ddim yn edrych yn rhy hapus, ond yn well nag o’r blaen. Beth wy’n gwneud yw plannu rhai sydd wedi mynd yn hirwyn yn isel yn y pridd, fel bod hanner y coesyn o dano. Bydd gwreiddiau’n datblygu ar y rhan honno, a bydd y planhigyn yn gryfach.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: