Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 24, 2012

Moliant Mawrth

Gwanwyn – neu haf? Y bore ma fe ddaeth y parasol mâs o dan y stâr am y tro cyntaf eleni, a hebddo ni fyddwn wedi bod yn gyffyrddus yn bwyta brecwast ar y teras. Cyffaith ffigys, ac un lemwn, o’m gwaith i, a mêl a brynais i neithiwr gan gymydog yn y bar. Mêl hylifog iawn, mêl o wenyn y caeau hyn, yn dywyll ac yn gyfoethog ei arogl a’i flas.

Mae’r wythnos wedi bod yn gyfnewidiol â dweud y lleiaf o ran y tywydd: eira ddydd Sadwrn diwethaf, yn llwythi ar y Picos de Europa a haenen ar ein sierra fach ni. Wedyn yn oer, ac yn oeri, tan ddydd Iau. Ac ers hynny yn heulog ac yn dwym. Rhy dwym i weithio yn yr ardd. Diwrnod i eistedd a gwylio madfall yn rhedeg dros y graig a iâr-fach-yr-haf felen llachar yn brysio o un blanhigyn i’r llall.

Doedd dim amdani ond gwisgo het wellt a mynd am dro o gwmpas y lleuarth i bigo orennau a gweld sut mae pethau’n datblygu. Y ffa llydan wedi dechrau ffurfio, dim ond 5cm ydyn nhw ar y funud ond maen nhw yno. Un asparagwsyn tenau iawn, a’r tato cyntaf yn dangos digon o ddail erbyn hyn. Edrych ar y chwyn a gobeithio y bydd y gwres yn eu lladd nhw heb imi orfod gwneud dim!

Mae’r ymgyrch etholiadol wedi gorffen (‘sneb yn gwneud dim noswyl y bleidlais), a llawer o bobl yn dweud na fyddan nhw’n bwrw pleidlais o gwbl. Dydn nhw ddim yn ymddiried yn neb rhagor. A dwi ddim yn credu bod y pleidiau wedi cydnabod na deall hynny eto.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: