Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 25, 2012

Etholiad Asturias

Diwrnod yr etholiad: yma  yn Asturias ac yn bell i’r de yn Andalucia, mae pobl yn penderfynu pa blaid fydd yn llywodraethu ar eu cymuned awtonomaidd. I’r rheiny sydd wedi bod yn gofyn, fedra’i ddim dweud wrthoch chi i ba blaid rwy’n bwrw pleidlais, achos dwi ddim yn cael gwneud! Fel dinesydd o wlad Ewropeaidd arall, rwy’n cael pleidleisio mewn etholiadau trefol, a hefyd rhaid ar gyfer senedd Ewrop, ond dyna’r cwbl. Mae etholiadau cymunedau, fel rhai cenedlaethol Sbeinig, yn gyfynedig i ddinasyddion Sbaen.

A hyd yn hyn wrth gwrs sdim syniad gyda ni pwy sy’n ennill. Beth sydd yn amlwg yw bod y canran sy’n pleidleisio wedi cwympo yn y ddwy gymuned. Am 6 o’r gloch (awr Sbaen) roedd y ffigyrau i lawr 8% yn Asturias a 12% yn Andalucia. A beth ddaeth yn amlwg yn ystod yr ymgyrch yw bod yr elyniaeth rhwng y PP (ceidwadwyr Sbeinig) a FAC (ceidwadwyr sy’n honni rhoi Asturias yn gyntaf, a enillodd y tro diwethaf er syndod i bawb) yr un mor frwnt ag y buodd erioed.

Ond yma fel yng Nghymru cefnogwyr y chwith sy’n tueddu i aros gartref, felly sdim clem ‘da fi a fydd y PSOE (sosialwyr Sbeinig) yn cymryd y llyw eto. Nhw oedd mren grym tan y llynedd, gyda chefnogaeth IU (comiwnyddion/gwyrdd).

Mwy nes ymlaen!

22.00: mae’n edrych yn debyg iawn i beth oedd gyda ni o’r blaen, ond bod y PSOE wedi cael mwy o seddi (16) na neb arall. Petai FAC (13) a PP (10) yn gallu cytuno (gweler uchod) fe fyddai mwyafrif gyda nhw. 5 sedd gafodd IU sy’n debyg o gefnogi llywodraeth PSOE. Y newyddion mawr o Andalucia yw bod y PP wedi methu yno hefyd: roedden nhw’n gobeithio cymryd drosodd.


Responses

  1. Diweddara?

    • Wrthi’n sgrifennu cofnod newydd!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: