Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 26, 2012

Canlyniad Etholiad Asturias

A dechrau yn y diwedd: fyddwn ni ddim yn gwybod tan ddydd Mercher o leiaf pwy fydd yn ffurfio llywodraeth nesaf Asturias – ac efallai ddim bryd hynny. Ar hyn o bryd mae dwy blaid adain dde, PP a FAC, mewn sefyllfa i wneud hynny petaen nhw’n gallu orchfygu’r hanes o elyniaeth a diffyg ymddiried sydd rhyngddynt. Mae PSOE ac IU, ar y chwith, gydag un sedd yn llai na’r dde. Ond am y tro cyntaf mae un sedd wedi ei chipio gan UPyD, plaid Sbeinig weddol newydd sy’n cael ei harwain gan gyn-aelod sosialaidd o senedd Ewrop. Rhywbeth tebyg i ryddfrydwyr ydyn nhw.

Pam dydd Mercher? Dyna pryd fyddan nhw’n cyfrif pleidleisiau yr Astwriaid ar wasgar. Ychydig gannoedd ohonyn nhw. Ond fe all fod yn ddigon i roi un sedd arall i PSOE (ac felly un yn llai naill ai i PP neu i FAC). Os digwyddith hyn, fe fydd gan unig aelod UPyD y gallu i benderfynu lliw’r llywodraeth, achos fe fydd cyfanswm seddi y chwith a’r dde yn gyfartal.

Ydy hyn yn beth da neu beidio sy’n gwestiwn mawr. Ond beth sy’n amlwg wrth y ffigyrau yw bod Asturias wedi ei rhannu’n gyfartal (ar bleidlais isel o 55%). Ac fe fydd gwleidyddion o bob plaid wrthi ar y ffôn a’r we yn ceisio dod i gytundeb, unrhyw gytundeb, rhwng nawr a diwedd yr wythnos.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: