Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 27, 2012

O’r Ardd: Wrth Aros Canlyniad

Dim malu mlaen am yr etholiad heddiw: mae’r trafodaethau wedi dechrau a’r pleidleisiau olaf (yr Astwriaid ar wasgar) heb eu cyfrif. ‘Fory bydd rhaid imi esbonio’r syms, ond heddiw buom ni yn yr ardd drwy’r dydd, yn gweithio ie, ond hefyd yn mwynhau’r tywydd mwyn.

Penawdau newyddion y lleuarth: mae’r hen eirinen wedi gorchfygu’r oerfel a rewodd yr egin cynnar (fel arfer mae’n blodeuo tua diwedd mis Chwefror), ac yn llawn o flodau – gan gynnwys y rhain.

Mae’r ffa llydan wedi cyrraedd 10cm o hyd , a’r brocoli porffor yn anhygoel, yn dal i ddod ar ôl mis a mwy. Cymaint ohono fe, fy mod i eisoes wedi gwneud pizza (wynwnsen fach o’r stordy, peth o ddiweddion yr helogan, a brocoli + tomato a chaws) a chawl. Dydyn ni ddim wedi bwyta’r cawl eto ond mae’r lliw braidd yn rhyfedd. Ac mae’r perlysiau bychain wedi cael symud i botiau mwy ac yn gwneud yn dda.

Bydd eisiau dwrhau ymhobman os na ddaw’r glaw y maen nhw’n ei addo ar gyfer wythnos nesaf (gwyliau – wrth gwrs bydd hi’n bwrw glaw). Ond dyw’r chwyn yn malio dim am hynny, felly mae’n debyg taw chwynnu bydda’i fory eto. (Ac yn cadw golwg ar y teledu a’r we i weld pwy fydd wrth y llyw yn Uviéu/Oviedo.)


Responses

  1. Try purple broccoli with penne (or a similar pasta): Fry pancetta (or anything porky) in olive oil with garlic, diced red pepper; add wet chopped broccoli and sweat covered offheat until tender. Combine with cooked/drained pasta, butter, lots of black pepper, a little of the pasta water, lemon juice, and serve with grated parmesan (or similar) and rocket. Very good with garlic bread….


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: