Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 28, 2012

Rhifyddeg Etholiad Astwrias

Wel nawr rŷn ni’n gwybod. Gwybod, hynny yw, faint o seddi sydd gan bob plaid yn senedd Astwrias. Gad imi esbonio beth digwyddodd.

Heddiw, dridiau ar ôl yr etholiad, roedden nhw’n agor pleidleisiau oedd wedi cyrraedd gan Astwriaid yn byw dramor. Mae cymuned Astwrias yn cael ei rhannu’n dair ar gyfer etholiadau: dwyrain, canol (yr un fwyaf o lawer iawn), a gorllewin.  Rhestrau caeedig yw’r rheol etholiadol, ac yn ardal y gorllewin, roedd 4 plaid wedi cyrraedd y 3% sydd ei angen ar gyfer mynd ymlaen yn y cyfrif. Roedd dyfodol 6 sedd yn y fantol, a chyn cyfri’r pleidleisiau tramor, roedd tair plaid, PSOE (chwith) PP (dde) a FAC (dde) wedi cael 2 gynrychiolydd yr un.

Ond roedd y cyfri yn y rownd olaf un yn agos iawn rhwng FAC a PSOE, a gyda’r tueddiad gan y bleidlais dramor i ddewis y chwith, roedd disgwyl y gallai pethau newid. Yn ôl y bobl sy’n dilyn y pethau ‘ma’n fwy drwyadl na fi, roedd yn rhaid i PSOE ennill 172 pleidlais yn fwy na chyfanswm FAC, a hefyd 1.5x beth bynnag fyddai FAC yn cael heddiw. Clir? Weithiau rwy’n siŵr fy mod i wedi deall, weithiau mae mhen i’n troi.

Ta beth, 290 yn ychwanegol a ddaeth i PSOE, a dim ond 44 i FAC, felly mae FAC yn colli un o’i dwy sedd yn y gorllewin, a’r PSOE yn ennill un yn fwy. Sy’n golygu bod chwith a de yn gyfartal: PSOE 17 + IU 5 = FAC 12 + PP 10.  22 yr un.  Ond 45 o seddi sydd. Mae’r 45ain yn nwylo UPyD, plaid fach newydd sydd braidd yn aneglur ei hathroniaeth, gan ddweud poethau fel ‘byddwn ni’n gwneud y gorau dros bawb’. Maen siŵr ei bod wedi ennill pleidleisiau wrth ymosod ar y pleidiau mawr, ond hyd yn hyn dim gair ynglŷn â beth mae eisiau cael am ei chefnogaeth. Cefnogaeth sydd yn awr yn hollbwysig.

290 o bleidleisiau tramor i un blaid wedi rhoi allwedd llywodraeth newydd Astwrias yn nwylo plaid arall.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: