Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 29, 2012

Streic Sbaen

Streic gyffredinol yw hi yn Sbaen heddiw yn erbyn newidiadau (er gwaethaf, cyhyd ag y mae’r gweithwyr yn y cwestiwn) yn rheolau’r farchnad lafur, yn enwedig diswyddiadau. Efallai bod y gwleidyddion hwythau wedi aros yn tŷ hefyd achos does dim byd wedi dod eto ynglŷn â ffurfio llywodraeth newydd Asturias.

Un trên sydd wedi mynd heibio ar y FEVE, yr un sy’n mynd ar hyd y lein gyfan o Oviedo i Santander. Mae hynny achos y ‘gwasanaeth isafswm’ sy’n cael ei warantu gan yr undebau pan fydd streic fel hyn. Dyw trenau’r gweithwyr o gwmpas y dinasoedd ddim yn rhedeg, na chwaith y trenau dur. Mae hawliau picedu’n wahanol yma: mae grwpiau mawr yn cael aros y tu fâs i orsaf bysiau neu ganolfan siopa a pherswadio pobl, yn enwedig gyrwyr loriau, i beidio â mynd i fewn. Digon o anghytuno wrth gwrs am y canran sydd wedi ymuno â’r streic.

Fan hyn yn y pentref mae’n dywydd braf eto, diolch byth ein bod ni wedi cynnau coelcerth ar waelod yr ardd yr wythnos ddiwethaf achos mae ‘na waharddiad yn awr. Neithiwr roedd fflammau tân gwair yn ymestyn tuag atom dros ben y mynyddoedd i’r de, ond ddaethon nhw ddim mwy nag ychydig metrau i lawr o’r grib. Penderfynu tynnu’r beic mâs o’r sied a’i baratoi ar gyfer y tymor i ddod. A mynd bant y prynhawn yma i ymweld â chyfeillion yn eu tŷ newydd.

Diweddaru heno os bydd rhywbeth newydd sy’n werth ei gynnwys!

23.00: Y rhan fwyaf llethol o fusnesau wedi cau heddiw. Degau o filoedd wedi gorymdeithio – yn ofni beth ddaw yfory pan fydd llywodraeth Rajoy yn Madrid yn cyhoeddi mesurau cyllideb newydd. Trais? Ffenest ambell i fws wedi ei thorri, hanner dwsin wedi eu harestio, ond dim byd ar raddfa Catalunya.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: