Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 30, 2012

O Ddrwg i Waeth

Toriadau llywodraeth Sbaen yn nesau at yr esgyrn: dros hanner gwariant arfaethedig yr Adran Dramor wedi mynd, treian o Amaeth a’r Amgylchedd a’r un peth yn Adran Diwydiant, Ynni a Thwristiaeth. 34% yn yr Adran Ddatblygu (Cynlluniau Mawr e.e. trafnidiaeth). Mae’n amlwg bod Rajoy a’i griw PP wedi ymuno â’r gwleidyddion hynny sy’n credu taw dim ond cael y llyfrau cownt yn iawn sy’n bwysig. Fydd dim byd fan hyn i helpu’r ifainc sydd heb waith na’r teuluoedd sydd heb gartref.

Yn Asturias rydym yn dal heb lywodraeth. Mae’r PP ar raddfa Sbeinig wedi gwneud yn eglur nad ydyn nhw’n ymddiried yn Cascos, (FAC, yr hen lywydd), a’r unig bwynt o gytundeb rhyngddyn nhw a’r PSOE yw bod rhaid gweithredu ar unwaith i ffurfio llywodraeth. Wneith IU ddim cytuno â FAC.  Sy’n dod â ni nôl at UPyD â’i hunig aelod. Lan iddo fe nawr i benderfynu, ond gan fod y PSOE wedi cael mwy o seddi na neb arall dybiwn i y dylai fe roi rhyw fath o gefnogaeth iddyn nhw – efallai fesul pwnc os nad yw’n fodlon bod yn rhan o glymblaid.

Ond mae’r haul yn dal i ddisgleirio – am ddeuddydd arall ta pun – ac mae bar y traeth yn agor heno ar gyfer gwyliau’r Pasg felly hei  ho, wnewn ni anghofio am bethau anodd tan ddydd Llun.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: