Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 31, 2012

Diweddaru

Mae’r cyfarfodydd wedi cwpla. Fe gafodd unig aelod UPyD  i’w ethol yn yr etholiadau wythnos yn ôl gyfle i gwrdd ag arweinwyr y pleidiau mwy – PSOE, PP,  a FAC – wrth i’r rheiny geisio ffurfio llywodraeth. Fel yr oeddwn yn amau, doedd e ddim yn fodlon ymuno ag unrhyw glymblaid. Yr hyn yr oedd e’n pwyso amdano oedd llywodraeth o’r holl bleidiau, undod yng ngwyneb yr argyfwng economaidd.

Ond dyw hwnnw ddim yn mynd i ddigwydd. Dyw PSOE na PP ddim yn mynd i eistedd i lawr gyda’i gilydd, na gyda FAC. Yr unig glymblaid bosib, felly, yw PSOE ac IU, y ddwy blaid ar y chwith. Fel y dwedais i’r dridiau nôl, byddai hynny’n golygu llywodraeth gyda’r un nifer o seddi â’r gwrthbleidiau mawr, + UPyD fel cerdyn gwyllt, yn cefnogi neu’n gwrthod fesul cymal.

Ond mae hanes y gwleidyddion wedi disgyn o’i lle ar flaen y newyddion. Pel-droed sy’n mynd â hi. Mae Sporting yn chwarae Real Zaragoza heno – nawr! – ac os na enillan nhw hon fe fyddan nhw’n disgyn hefyd – i’r ail adran.  A bant â ni i’r bar i weld y gêm.

 


Responses

  1. Gijon i lawr ta? Wedi colli 2 – 1 i Real Zaragoza. Be oedd y dorf mewn gem fel hyn?

  2. Ie, Sporting ar ei ffordd i lawr yn bendant nawr. A doedd hi ddim yn gêm dda chwaith – cyffredin iawn oedd barn y cymdogion. 28,000 yn y dorf yn y Molinon (parc pêldroed Gijon). Bydd y tîm a’r dref ar eu colled.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: