Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 1, 2012

Sul y Blodau

Clychau eglwysi’r pentrefi cyfagos yn galw’r ffyddloniaid. Maen nhw i gyd yn rhannu offeiriaid erbyn hyn felly yn cynnal offeren pan fydd e ar gael – rhai am 9 y bore, eraill am 2 y prynhawn. Lot o glychau. Mwy o ffyddloniaid nag arfer heddiw hefyd, am ddau reswm: mae Domingo de Ramos  (Sul y Blodau) yn bwysig ac mae ‘na orymdaith gyda changhennau o flodau a crwys palmwydd, ac yn ail mae nifer o bobl eisoes wedi dechrau ar eu gwyliau Pasg. Yr wythnos cyn y Pasg sy’n cyfri fan hyn: erbyn dydd Llun bydd pawb yn ôl yn eu gwaith.

Nid i’r eglwys yr oeddem ni’n prysuro’r bore ma, serch hynny. Roedd yn rhaid codi’n fore ermwyn i’r gŵr gael mynd gyda chymydog i hôl tail/tom/beth bynnag yw’r gair lle ‘rwyt ti’n byw. Mae wedi mynd yn anodd ei gael am fod gymaint o ffermwyr llaeth wedi rhoi’r gorau iddi, ond roedd ein cyfaill wedi clywed am rywle. Yn awr mae llond trelar o’r stwff du (da) yn domen ar ochr y lleuarth.

Mae’r tywydd ar droi, yn gymylog ond heb fwrw glaw eto, felly dyma benderfynu mynd am dro i lawr yr afon i’r traeth. Ac yna y cawsom ni llond teras o gyfeillion tu fâs i’r bar yn cymryd seidr bach cyn mynd i fewn i gael bwyd. Beth allwn ni ei wneud ond ymuno â nhw? Brwyniaid, fabada, a chaws Gamoneu. Fydd ddim angen bwyta heno!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: