Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 2, 2012

O’r Ardd: Arbrofi

Nodyn ar wleidyddiaeth i ddechrau: ddaw dim newyddion tan ar ôl gwyliau’r Pasg, ond mae’n edrych bron yn sicr y bydd PSOE ac IU yn ffurfio rhyw fath o lywodraeth ar y cŷd yma yn Asturias, ac yn ceisio cael cefnogaeth pleidiau eraill fesul pwnc.

Ond does dim gwyliau yn y lleuarth, lle byddwn ni’n arbrofi gyda chwpwl o bethau. Yn gyntaf, y coed lemwn. Mae’r hen un yn dioddef yn arw eleni, ac maen nhw i gyd yn cael problemau yn eu dail. Nyni sydd ar fai am eu tyfu nhw ar dir y garreg galch – fe fydden nhw’n hapusach o lawer ar dir mwy asid, achos maen nhw’n ei gael yn anodd i ddefnyddio’r haearn sydd mewn pridd alcalinaidd. Yr ateb yn lleol yw dodi darnau o haearn – llifion os yn bosib – o gwmpas y goeden, ond mae hwnnw hefyd yn cymryd amser maith i newid i fewn i ffurf y mae’r coed yn gallu ei lyncu.

Dyma’n syniad ni: mae haearn mewn ffurf llysieuaidd i gael mewn bresych tywyll. Mae’n cavolo nero ni (bresychen o’r Eidal sydd yn dywyll iawn) wedi dod i ben. Treuliais i’r bore yn tynnu’r dail, torri nhw’n fân a’i dodi nhw o gwmpas yr hen goeden lemwn. Y gobaith yw y bydd yr haearn yn y dail yn haws i’r goeden ei gymryd na’r darnau o fetal!


Responses

  1. Rwyt ti’n amlwg yn manteisio ar bob modfedd o’r tir. Ydi diffyg dwr yn broblem i’r coed wrth iddynt aeddfedu ar lethr creigiog fel’na?
    Rhaid cyfadde ‘mod i’n meddwl taw eira oedd y creigiau pan welais y llun gynta! Disgwyl i’r eira gyrraedd gogledd Cymru o’r Alban rywbryd dydd Mercher.
    Ai llaw-redynen (Polypodium sp.) sydd ar y wal? Wyt ti wedi astudio rhedynnau Asturias?

  2. Mae’r goeden hon dros ei 30! Pan brynon ni’r tŷ roedd hi o dan y mieri. Mae’n siwr bod y ffaith bod dŵr yn llifo i ffwrdd yn gyflym iawn yn broblem iddi ac felly mae’n cael dŵr dros yr haf. Mae’r coed mawr eraill (cnau Ffrengig ac ati) i gyd ar y clai onibai am y derw bythwyrdd sy’n tyfu’n syth mâs o’r graig ac yn hapus iawn felly – o, a’r llawrwydd sy’n tyfu’n bobman.
    Mae’n gywilydd dweud nad ydw i ddim eto wedi astudio’r rhedyn(nau), ac mae ‘na gymaint ohonyn nhw! Hanner dwsin ar ein tir bach ni, a rwy’n dweud hynny heb fynd i edrych. Mae eira ar y Picos eto’r wythnos hon, ond yn uwch na 1200m.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: