Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 3, 2012

Toriadau Amryliw

Bob dydd mae mwy o wybodaeth yn dod mâs am y toriadau – ar raddfa Sbeinig, Astwraidd ac yn lleol. Heddiw cyhoeddwyd y bydd llywodraeth Sbaen yn gwario tua 10% yn llai yn gyffredinol yn ystod y flwyddyn i ddod. Eisoes cafwyd y newyddion bod amaeth a’r amgylchedd ar eu colled yn fawr, ond yn awr mae’n amlwg y bydd toriadau hefyd yn yr arian sy’n cael ei wario ar ymchwil gwyddonol ac ar ysgoloriaethau. Byddwn i’n meddwl y dylid ceisio cadw’r rheina i fynd hyd yr awr olaf, gan fod dros hanner ieuenctid Sbaen yn awr yn ddiwaith a dim ond drwy ddatblygu diwydiannau newydd y bydd modd dod mâs o’r twll.

Yn lleol, y gofid yw y bydd y socorristas – timau achub y traethau – yn rhywbeth na ellir ei fforddio eleni. Dim ond ar y traethau mwyaf, a mwyaf poblogaidd, y maen nhw i gael beth bynnag, yn eistedd ar eu cadeiriau uchel rhwng y baneri mawr sy’n dangos y man diogel i fentro i’r môr. A oes rhaid eu cael nhw?

Rwy’n credu bod ‘na, oherwydd mae’r rhan fwyaf llethol o’n hymwelwyr yn dod o rannau eraill o Sbaen. Fel arfer, eu hunig brofiad o ymdrochi yn y môr yw Môr y Canoldir. Ac mae hwnnw’n llai stormus a heb fawr o newid rhwng penllanw a thrai. Nid felly yr Iwerydd, sy’n llifo a throelli’n gryf! Sawl gwaith yr wyf i wedi clywed pobl yn gofyn yn syn: ‘ydy e’n mynd reit mâs i ben y clogwyni’ Neu, ar benllanw : ‘does dim traeth o gwbl felly?’ Oes, mae angen cymorth arnyn nhw, a rhywun profiadol i’w hachub os bydd pethau’n mynd yn chwith.


Responses

  1. Wastod rhywbeth arall: y toriadau ar y teulu brenhinol 2% yn unig!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: