Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 4, 2012

Hanes y Bont

Diwrnod marchnad yn Ribadesella yw dydd Mercher, ac er gwaetha’r gwynt main roedd nifer y prynwyr yn fwy na mae wedi bod yn ddiweddar. Rhai pobl wedi dechrau cyrraedd ar gyfer penwythnos y Pasg, eraill yn dod mâs i weld pwy sydd wedi cyrraedd. Mwy o werthwyr hefyd: dyw’r menywod sy’n dod â chynnyrch eu gerddi i’w werthu ddim mor niferus yn ystod y tywydd drwg.

Tipyn o bopeth gan hon: berza yw’r dail bresych mawr, wynwns, wyau a chnau, lemwns a phersli a thato. Yn y bag yn y cefn mae ganddi hyd yn oed blodau: y lili wen cala sydd wedi ymgartrefu yn y perthi, a changhennau o swllt-dyn-tlawd gyda’i had-lestri hynod.

Ond y newyddion yn lleol oedd y bont dros afon Sella.

Pont Ribadesella

Fe godwyd y bont gan garcharorion rhyfel ochr y gweriniaethwyr, ar gyfer oes pan oedd ceir o hyd yn brin yng ngogledd Sbaen. Ers imi gofio mae ‘na gwyno wedi bod ei bod yn rhy gul, a dim digon o le i gerddwyr. Roedd y llywodraeth ddiwethaf  (yn Madrid) wedi addo ac wedi rhoi arian o’r neilltu ar gyfer ei hailwneud. €2.4m, a bod yn fanwl. Roedden nhw wedi gwrthod codi pont newydd am fod hynny’n ddrutach o lawer.

Yr wythnos hon mae cynlluniau gwariant manwl adrannau’r llywodraeth newydd yn cael eu cyhoeddi. Mae’r bont yn dal yno: €50,000 o wariant eleni a dim mwy i ddod! Hanner y swm a wariwyd yn ddiweddar ar bompren ychydig filltiroedd lan yr afon. Digon i’w pheintio? Efallai. Ond fe fyddwn ni yn ei hosgoi gymaint â medrwn , yr haf yma fel pob un o’r blaen.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: