Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 5, 2012

Bwyta a Meddwl

Wel am ddiwrnod llwyd, gwlyb, annifyr.

Dim  byd i’w wneud ond gwahodd cymdogion (cyfeillion) i gael cinio. Dyma’r fwydlen:

cava i ddathlu 31 mlynedd ers iddyn nhw gwrdd â’u gilydd

wyau wedi’u sgramblo gydag eog myglyd + y brocoli bach diwethaf a’r ffa llydan bach cyntaf o’r lleuarth

golwython cig oen (y rhai bach – golwython yw’r rheiny hefyd?) gyda guacamole (rysait yfory), tato a salad.

crymbl eirin gyda hufen iâ mafon

coffi. gwin Oporto, chupitos (gwirodydd)

Y peth pwysig, wrth gwrs, oedd y siarad. Cofio’r hyn a fu, ac ocheneiddio am yr hyn sydd. Yn ystod ein bywydau ni mae pethau wedi gwella:  nid drwy’r amser, ond ar y cyfan. Anodd iawn yw derbyn ein bod wedi cyrraedd terfyn. Beth sy’n rhaid ei wneud yn awr yw helpu’r ifainc i ddatblygu mentrau newydd fydd yn gallu creu cyfnod lle bydd Astwrias yn dibynnu llai ar y canol. Cawn weld.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: