Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 6, 2012

O’r Gegin: Rysait o fewn Rysait

Wnes i addo cofnod ar fy rysait ar gyfer guacamole cyflym iawn, a dyma hi, i 2 berson:

Un afocado aeddfed, sudd hanner lemwn, llond dwrn o ddail coriander wedi’u malu’n fân, 2 lwy ford o gyffaith tomato a tsili. Dod y cwbl mewn bowlen, gan ddechrau gyda’r sudd lemwn achos mae’n cadw’r afocado rhag mynd yn frown, a’i gymysgu’n dda gyda fforc. Na gyd yw e.

Ond, beth am y cyffaith? Mae’n rhywbeth y byddaf yn ei baratoi fesul kilo, yn dilyn mwy neu lai rysait gan y cogydd o Seland Newydd Peter Gordon. Mae’n cadw am fisoedd yn yr oergell – ond dim ond os bydd neb yn y tŷ! Mae’n cydfynd â phopeth: pysgod, bacwn, caws, salad…. Bydd angen

500g tomatos aeddfed

4 pupur tsili coch

darn o sinsir ‘run faint â bys bawd

4 garllegyn

300g siwgr caster euraidd

100ml finegr gwin coch (ond byddaf i ran amlaf yn rhoi finegr seidr)

a’r unig beth a allai fod yn anodd ei gael – 30ml nam pla – saws bysgod Tai

Bydd hwn yn darparu tua 70cl o gyffaith. Y peth cyntaf i’w wneud yw cael y jarrau’n barod, yn lân ac yn dwym. Wedyn torri hanner y tomatos yn fân – 1-2cm. Dodi’r hanner arall, gyda’r garlleg, pupurod, sinsir a nam pla mewn hylifydd a’u gwneud yn stwnsh. Eu harllwys nhw i sosban fawr gyda’r siwgr a’r finegr, a’u gwresogi nhw’n araf hyd at bwynt berwi. Tynnu’r gorferw â llwy. Ychwanegu’r gweddill o’r tomatos. Cadw’r cymysgedd ar bwynt berwi am o leiaf hanner awr. Arllwys i’r jarrau.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: