Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 8, 2012

Drannoeth y Llifogydd

Dyna’r gorau o fyw ar y garreg galch: mae’n gallu bwrw glaw nes bod rhywun yn meddwl y bydd y tŷ i gyd yn llithro i lawr i’r môr – ac erbyn y diwrnod wedyn mae’r dŵr wedi diflannu drwy ridyll naturiol y graig. Neithiwr pan oeddem yn cerdded gartref roedd y cymylau wedi cilio a’r lleuad lawn yn goleuo’n llwybr. Y bore ‘ma aethom ni ar hyd glan yr afon i lawr i’r traeth i weld cyflwr y llwybr hwnnw. Digon fwdlyd, ond yn iawn. A’r afon ei hun yn arbennig: yn llawn ac yn llawen.

Y rheswm arall dros fynd i lawr i’r traeth oedd am fod y môr ar drai yn isel iawn heddiw (ac yn uchel iawn y llanw heno: y lleuad eto). Bu’n rhaid inni fynd yn droednoeth drwy ddyfroedd oer yr afon hyd pen isa’r traeth, ond unwaith eto fe welsom ni greigiau sydd fel arfer o dan yr wyneb. Ac arnyn nhw cregyn gleision, a’r rhain:

buchod coch/tomates del mar

Actinia equina ar eu ffurf ‘byw yn yr aer’ ydyn nhw. Pan fyddan nhw yn llythrennol yn eu helfen, yn yr heli, maen nhw’n edrcyh fel blodau, gyda thentaclau lliw pinc neu oren. Ond pan fydd eu craig y tu fâs i’r môr am awr neu ddwy, maen nhw’n crynhoi’r tentaclau oddi fewn i’r corff. Ac yn sgleinio fel rhuddem bob un.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: