Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 10, 2012

Fesul Dropyn

Dyma’r amser anodd i wleidyddion Asturias: y ddwy ochr, chwith a de, yn ceisio ffurfio llywodraeth gyda’r un nifer o seddi. Llywodraeth fydd yn dibynnu, fesul pwnc, ar gefnogaeth yr unig aelod o blaid fach sy’n ymwrthod â labedi chwith a de. Dal i siarad y maen nhw, er bod Cascos, y cyn-lywydd a alwodd yr etholiad wedi iddo fethu â chael ei gyllideb drwy’r senedd, yn bygwth cario ymlaen a’i achos gyfreithiol ynglŷn â dilysrwydd rhai o’r pleidleisiau tramor. Y pleidleisiau hynny wnaeth sicrhau cyfartaledd rhwng y ddwy ochr.

Ond rwyf i, yma yn y pentref,  wedi llwyddo i wneud rhywbeth sydd wedi bod yn fethiant llwyr gen i hyd yn hyn. Yn y gegin, yn cilio rhag y glaw, fe benderfynias rhoi cynnig arall ar y cnau Ffrengig, ac yn arbennig ar wneud olew. Roedd tymor yr hydref y llynedd yma yn hir, sych a heulog. Roedd cyfartaledd y cnau mawr, tew, felly yn fwy nag arfer, a’r cnau eu hunain yn fwy hefyd. Dewisais i 1kg o’r goreuon, eu hagor a’u malu a’u rhostio am 15 munud yn y ffwrn. Arllwys nhw i fewn i’r felin fach sydd gyda fi, a:

olew cnau Ffrengig ffoto:cathasturias

Fesul dropyn mae’n dod, ond mae’n dod. Mae yn bosib gyda’r cnau hyn. A fydd yn bosib bob blwyddyn, wn i ddim. Ac a fydd yr amynedd gyda fi i agor kilos o gnau sy’n gwestiwn arall. Ond bydd blas arbennig ar y salad yr haf yma.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: