Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 11, 2012

Dyfodol Aneglur

Ddim yn gallu derbyn ei fod e wedi colli, neu ddefnyddio pob ffordd gyfreithiol i gael cyfiawnder? Mae FAC, y blaid daleithiol adain-dde oedd yn rheoli Asturias fel llywodraeth leiafrifol tan fis yn ôl, wedi cadarnhau eu bod yn mynd ag achos y pleidleisiau tramor at Uchel Lys Asturias. Ond pan fydd y cyfryngau’n sôn am hyn, nid FAC maen nhw’n dweud ond Cascos, oherwydd mae’r arweinydd yn personoli’r blaid a sefydlodd i raddau anhygoel. Poblyddwyr ydyn nhw yn y bôn, ac wedi gwneud yn dda i ddwyn cefnogaeth oddi ar y PP sy’n llywodraethu yn Madrid dros Sbaen gyfan.

Ond mae Asturias wedi ei rhannu’n ddwy, gydag ychydig gannoedd o etholwyr tramor wedi gwneud yn siŵr na fyddai clymblaid o FAC a PP yn ennill o un sedd. Craidd yr anghydfod yw newidiadau yn y rheolau ynglŷn â danfon y rheiny i fewn – drwy lysgenhadaeth, neu’n syth at y Comisiwn Etholiadol.

Pa wahaniaeth wneith e pwy sydd wrth y llyw? Hyd heddiw, byddai polisiau chwith a de wedi bod yn dra gwahanol. Ond mae llywodraeth Mariano Rajoy yn Madrid yn benderfynol o weld lleihau dyledion y cymunedau awtonomaidd, er mwyn plesio’r marchnadoedd, ac mae sôn yn barod y bydd yn cwtogi ar eu pwerau nhw i wario arian. Nid yw Asturias ymysg y gwaethaf, gyda llaw; ond eto mae gyda hi ddyled o 9.1% GDP.

Eto dyw’r pethau yma ddim yn teimlo’n real. Beth sy’n poeni pobl (ar wahan i’r glaw!)  yw diffyg gwaith, diffyg cartref, becso y byddan nhw’n gorfod talu i weld y meddyg, dyfodol y plant…. A does dim llawer yn gweld gwleidyddion yn gymorth, ond yn rhwystr.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: