Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 12, 2012

Dyfodol yr Amerig

Un o´r pethau y bydda’í’n ceisio gwneud o bryd i’w gilydd drwy’r blog yw agor ffenestr arall ar y byd. Mae’n ymddangos imi nad yw  cyfryngau Cymru (ac wrth gwrs dwi’n ddim yn eu gweld nhw i gyd o bell ffordd) yn ymdrin ryw lawer â materion allanol – dim byd pellach na Brwsel. Ac mae cyfryngau mawrion y DU yn gweld pwysigrwydd pwnc – neu wlad – yn unol â’r effaith y bydd yn cael ar Brydain er da neu er drwg.

Oedd yna drafodaeth o gwbl ynglŷn ag ymweliad arlywydd Brasil, Dilma Rousseff, â’r Tŷ Gwyn? Mae El País yn ei weld yn gyfarfod arwyddocaol wrth inni ystyried dyfodol cytbwysedd pŵer yn America’r Gogledd a’r De. Mae economi Brasil wedi tyfu gymaint, ac mor glou, taw hi yn awr yw’r chweched ymysg mawrion y byd – o flaen y DU. Ond yn ystod yr ymweliad ag Obama, ni chafodd Rousseff y cinio gwladwriaethol a roed e.e. i David Cameron. Ac yn ôl yr adroddiadau, nid oedd fawr o sylwedd yn y cytundebau a arwyddwyd. Rhaid cofio nad yr Unol Daleithiau yw cymar marchnata mwyaf Brasil: Tseina yw hwnnw.

Fe gafodd Dilma Rouseff, sy’n ferch i ymfudwr o Fwlgaria, ei charcharu yn ystod y 70au am ymladd yn erbyn unbeniaeth filwrol Brasil yr adeg honno. Y fenyw cyntaf i ddal ei swydd, a sosialydd. Menyw sydd yn arwain gwlad a allai arwain gwledydd eraill America’r De – i gyfeiriadau na fyddai’n plesio Washington. Ydy ‘Canrif yr UDA’ yn dirwyn i ben?


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: