Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 13, 2012

Camddeall – Camwedd?

Newydd ddod yn ôl o ardal y Bierzo yn Leon yr ydym ni, wedi dianc o’r glaw am ddiwrnod. Diwrnod yn llawn o ddigwyddiadau a phrofiadau newydd a all fod yn sylfaen i sawl cofnod. Heddiw: lladd Iddewon. Na phoener, dydy pobl y Bierzo ddim mewn gwirionedd yn lladd Iddewon amser Pasg – ond maen nhw’n annog ei gilydd i wneud hynny. A’r hyn y mae’n golygu iddyn nhw yw mynd i’r bar agosaf i yfed limonada.

Diod arbennig ar gyfer Semana Santa yn ninas León a rhannau o’i thalaith yw hi, a rhywbeth yn debyg i win twym sbeis ein gwyliau gaeafol ni. Nid lemonêd cartref fel yr oeddwn i wedi tybio! Gyda’r canlyniad ein bod wedi archebu bob o lased am 10.30 y bore, a chael ei bod yn alcoholig iawn. Mae’n cael ei hyfed yn oer, ar ôl wythnos o araf ddatblygu blas y gwin, lemwn, sinamon, cwrens a siwgr – o leiaf. Gan fod pob tref yn cynnal cystadleuaeth rhwng y barau, mae cynifer o ryseitiau ar ei chyfer ag sydd o bobl yn ei pharatoi.

Diod i’w pharchu felly, ond beth am y gwahoddiad i ladd Iddewon? A ddylid rhoi’r gorau i ddefnyddio’r geiriau hynny, neu eu derbyn fel darn bach o hanes nad oes neb yn eu credu? Yn ôl Wicipedia mae’n deillio o ddigwyddiad yn ninas León yn y canol oesoedd pan oedd rhyw ddihirod mewn gwirionedd yn mynd i ladd Iddewon ddyddiau cyn y Pasg, a beth wnaeth awdurdodau’r ddinas oedd agor y tafarnau i gyd (a hynny cyn diwedd y Grawys pan oedd gwaharddiad ar yfed alcohol), iddyn nhw feddwi a pheidio mynd i ladd neb. Hyd y gwn i dyw’r geiriau ddim yn cael eu defnyddio mewn unman arall yn yr un modd. Ond yn awr mae’r byd (gan gynnwys Iddewon) yn gwybod amdanyn nhw – ydy hynny’n newid pethau?

Yn bersonol byddwn yn gadael i´r hen arfer i gadw mlaen. Mae digonedd o gamweddau sy´n waeth na geiriau heb eu cywiro yn y byd yma.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: