Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 15, 2012

Y Tywydd Drwg

Bues i’n conan gymaint am y sychder, alla’i ddweud dim yn awr pan fydd y glaw yn bwrw’n ddi-baid am ddyddiau ar y tro. Ond mae’r planhigion bach yn dioddef, hyd yn oed o fewn y tŷ gwydr – achos mae diffyg haul yn golygu diffyg gwres, felly dydyn nhw ddim yn tyfu. Ac yn bendant dydyn nhw ddim yn barod i’w plannu mâs, felly mae’r rhai sydd yn y blychau hadau y tu ôl iddyn nhw yn y rhestr yn gorfod aros ar silff ffenest y gegin.

A bod yn onest, dyw hi ddim yn bwrw drwy’r dydd. O bryd i’w gilydd, bydd y glaw, ys dywed pobl fan hyn, yn cyhoeddi cadoediad – o ryw 10 munud os wyt ti’n lwcus! Digon o amser i fynd â’r bwced i’r domen gompost neu hôl orennau ar gyfer brecwast yfory. Ond mae rhywun yn cerdded yr holl ffordd o’tr gegin i dop yr ardd fel petai ar Gors Tregaron ac yn aros i’r ddaear i’w sugno i lawr. Ac wedyn daw’r cesair i danlinellu pwynt y glaw.

Rwyf i wedi rhoi hanner-poteli dros y gorthyfail a’r perlysiau eraill sydd eisoes yn y tir- yn gymaint i’w diogelu rhag y cathod â rhag y glaw, achos mae ‘r cathod, sydd yn byw dros y ffordd yn hanner-gwyllt, yn hoff iawn o balu’r llecyn perlysiau. Rhaid imi gael hyd i rywbeth nad ydyn nhw ddim yn ei hoffi gymaint. Syniadau?

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: