Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 16, 2012

Amser i Ddiweddaru

Datblygiadau yn rhai o’r straeon yr wyf i wedi eu cofnodi’n ddiweddar:

Mae llywodraeth yr Ariannin wedi cymryd drosodd 51% o gwmni YPF, cwmni oedd yn perthyn i Repsol Sbaen ac sydd newydd ddarganfod cronfa enfawr o olew a nwy siâl.

Bydd cyw Gypaetus barbatus, y fwltur barfog, newydd yn cael ei ryddhau yn y Picos de Europa’r haf yma. Fe gafodd y newydd-anedig ei gymryd o nith yn y Pirineos pan oedd e’n dal o fewn yr wy, am fod y rhieni wedi gadael y nith (ac wedi gwneud hynny droeon o’r blaen). Y gobaith yw ailsefydlu poblogaeth yn y Picos: ar hyn o bryd dim ond un, fenyw a gafodd ei rhyddhau’n gyw bach ddwy flynedd yn ôl, sy’n byw yno’n barhaol.

Dyw holl fesurau cyni llywodraeth Mariano Rajoy yn cael dim effaith (da) ar y marchnadoedd arian. Mae’r pris benthyg a gynigir i’r llywodraeth wedi codi i’r uchaf a welwyd o dan ei reolaeth ef, ac wedi aros yno.

Mae nifer y Sbaenwyr sy’n gadael y wlad i fyw a gweithio dramor ar ei fyny eto. Mae e nawr ychydig dros 27,000 yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn – ddwywaith beth oedd e llynedd.

Ac yma yn y pentref, cawsom ni gadoediad o ddiwrnod cyfan gan y glaw (bydd e nôl yfory). Digon o amser i chlirio a chwynnu – ac, ie, i eistedd ar y teras yn gwylio’r cymylau dros ben y mynydd.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: