Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 17, 2012

Cael Gwared â’r Brenin

Henwr wedi dioddef triniaeth lawfeddygol ddifrifol ar ôl cwympo ar ei wyliau. Neu frenin sy’n byw mewn byd mor wahanol i’w ‘bobl’ nad oedd e ddim yn deall pa mor wrthun oedd mynd i’r Affrig (drud) i hela eliffantod (prin) pan fydd miloedd ar filoedd o drigolion Sbaen yn ddiwaith, yn ddigartref ac yn ddiobaith. A hynny ar ôl i achos llygredd ariannol ei fab-yng-nghyfraith achosi adwaith oed yn dangos yn glir bod y teulu brenhinol yn prysur golli’r parch a fu tuag atyn nhw.

Heddiw fe wnaeth llefarydd yr wrthblaid, y PSOE, wneud yn glir y disgwylid i’r brenin i ymdiheuro’n bersonol am fynd ar yr helfa. Ddeuddydd yn ôl roedden nhw’n glynu at yr hen frawddeg ‘nad oedden nhw am ddweud dim am y brenin, er da neu er drwg’. Ond ddoe fe ddywedodd arweinydd y PSOE yng nghymuned Madrid y dylai’r brenin ddewis rhwng ei gyfrifoldebau ac ymddiorseddiad. Ac yn awr mae arweinyddiaeth y PSOE yn gyffredinol wedi cymryd yr un lein.

Hyd yn hyn mae’r PP, sydd yn llywodraethu, yn cefnogi’r brenin, fel y gallet ti ddisgwyl. Ond mae dyfodol y frenhiniaeth yn bwnc arall lle mae barn pobl Sbaen wedi ei hollti’n dddwy. A buaswn i’n dweud bod lot llai o gefnogaeth i’r sefydliad hwnnw’n nawr nag oedd 10 mlynedd yn ôl pan ddes i yma gyntaf. Mae colofnau yn y papurau yn argymell cael gwared ar y brenin – naill ai er mwyn cael ei fab yn ei le, neu yn gyfangwbl. Rhaid aros i weld a fydd barn y bobl yn symud yn fwyfwy tuag at werinaeth.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: