Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 19, 2012

O’r Ardd: neu’r Gors

Yn anffodus mae’r glaw wedi aros gyda ni’r wythnos hon fel yr un ddiwethaf – yr wythnos nesaf, pan fyddwn ni ar ein ffordd i Gymru ar daith fach i weld y teulu, maen nhw’n addo haul.

Rwyf i wedi bod yn cerdded o gwmpas yn tynnu hynny o chwyn ag y medraf heb droedio ar y tir noeth – ac rwy’n sôn am ddant-y-llew sydd wedi tyfu 50cm mewn deuddydd, neu wair sydd yn chwifio’i flodau fel maes o ŷd. Mae’r brocoli wedi cwpla, a’r ffa llydan yn gwrthod tewhau, felly rydym ni wedi bod yn bwyta’r rhai bychain. Hyfryd iawn, ond mae angen uffern o lot ohonyn nhw i wneud pryd. Ond os nad wyt ti’n cymryd y rhai cynnar, fydd y gweddill fyth yn ffurfio – gobeithio y byddwn ni’n dod yn ôl i gael y planhigion yn llawn ffa.

Dim ond un peth sy’n hoff o’r tywydd gwlyb: teulu’r allium. O’r chwith i’r dde yn y llun uchod, mae sialots, garlleg, (moron o dan y cloche), wynwns coch a wynwns gwyn. Maen nhw wedi tyfu cystal, ar ôl dim ond un chwynnad da, dyw’r chwyn ddim wedi cael cyfle i ddod yn ôl. Ond rwy’n credu y bydden nhw hefyd yn croesawu tipyn o wres yr haul yn awr.

Mae’r pyst mawr newydd fynd i fewn ar gyfer y ffa dringo, y ffa mawr gwyn at sychu. Ac mae’r tato yn gwneud yn iawn – er fy mod yn teimlo’n anghysurus iawn yn teipo hynny, achos mae cymdoges wedi colli ei rhai hi i’r baedd gwyllt. Torcalonnus, ond aeth hi ati’n syth i blannu mwy, a hithau’n tynnu at ei phedwar ugain.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: