Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 20, 2012

Llywodraeth Newydd Asturias

Wythnos i heddiw fe gynhelir y cyfarfod fydd, o’r diwedd, yn gadael inni wybod pwy fydd wrth y llyw. Fel y bydd rhai yn cofio ac eraill wedi syrffedu’i glywed, yr un nifer o seddi yn senedd Asturias sydd gan ddwy blaid y chwith a dwy blaid y de. Ac un yn eiddo i blaid fach newydd sy’n honni bod hi ‘na chwith na de’.

Yn y cyfarfod, fe fydd y 45 aelod yn pleidleisio i ddewis llywydd a dau ddirprwy. Yno, o’r diwedd, y byddwn yn cael gwybod lliw ei wâr – neu’i fathodyn. Mae’n hysbys ers rai dyddiau bellach bod y ddwy blaid ar y dde, y PP Sbeinig (10 sedd) a’r FAC Astwraidd (12), wedi dod i gydsyniad: fe fyddan nhw’n cefnogi’r un ymgeisydd ar gyfer y llywyddiaeth. Ond hyd yn hyn dydyn nhw ddim wedi dweud wrth y bobl pwy fydd yr ymgeisydd hwnnw!

Mae’r IU ar y chwith (5 sedd) wedi dweud na fydd yn ffurfio clymblaid gyda’r PSOE (17), ond y bydd yn barod i drafod cytundeb gyffredinol neu ddod i delerau ar bynciau fel y maen nhw’n codi. A’r hyn y maen nhw’n gofyn yw newid ardaloedd etholiadol Asturias, i gael un yn lle tair. Ar hyn o bryd mae’r dwyrain a’r gorllewin, ardaloedd gwledig, yn cael 6 aelod yr un. Mae’r 34 arall yn dod gan y canol, y trefi mawrion a thrwch y boblogaeth.

Dyna hefyd y mae unig lais yr UPyD yn gofyn am. Ond bois bach, pryd mae’r gwleidyddion yn mynd i ddeall? Dyma ni mewn cyfnod o gyni economaidd, a’r dalaith yn colli swyddi a phoblogaeth flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae’r llywodraeth yn Madrid yn ymyrryd yng ngweithgareddau’r cymunedau awtonomaidd fel erioed o’r blaen. Mae taliadau’n dod i fewn ar gyfer moddion i bensiynwyr, pobl ifainc yn gorfod talu mwy i fynd i’r brifysgol a gweithwyr yn colli hawliau pan fyddan nhw’n colli’u swyddi.

Does dim ots gan y werin bobl sawl ardal etholiadol sydd! Mae i gyd yn cryfhau’r llun o’r gwleidydd fel rhywun sydd eisiau grym ac awdurdod er mwyn cael bywyd hawdd. Ac nid fel ‘na mae ceisio gwella’r sefyllfa druenus sydd ohoni.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: