Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 22, 2012

Diweithdra a Phethau Eraill

Heddiw (yn unig?) mae’r cymylau wedi codi uwchben cefn y sierra a hyd yn oed awgrym o haul. Llawennydd a thristwch yw hi heddiw hefyd: offeren yn cael ei dweud i nodi blwyddyn ers marwolaeth cymydog a chyfaill, ac yna cinio gyda chyfeillion eraill. Ond cyn mynd mâs, bues i’n chwilota ymysg y cyfryngau lleol a Sbeinig. Hyd at echdoe, roedd gan Asturias dri phapur dyddiol; dim ond dau sydd yn awr, wedi cau La Voz de Asturias – llais rhyddfrydol y byddwn yn teimlo’i cholli.

Mae un o’r ddau sy’n weddill, El Comercio, wedi edrych ar ffigyrau’r di-waith – a’r arian y maen nhw’n eu derbyn wrth y wladwriaeth. Mae bron i 100,000 heb waith yn Asturias yn awr, a 40% – 40,000! – o’r rheiny yn byw heb dâl diweithdra. Naill ai maen nhw wedi bod mâs o waith am flynyddoedd a’r hawl i’r tâl wedi darfod, neu maen nhw’n ieuenctid sydd heb dalu i fewn am flwyddyn – y cyfnod lleiaf cyn derbyn y tâl diweithdra. Ac mae hanner y gweddill, sef 30,000 o bobl, yn derbyn ychydig dros €420 y mis. Llai na £90 yr wythnos.

Bydd eu teuluoedd wrth gwrs yn derbyn taliadau eraill ar gyfer plant ac yn y blaen. Ond rhaid cofio taw o’r rhai heb dâl o gwbl,  dim ond y rhai sy’n mynd i swyddfeydd llafur sy’n cael eu cyfri. Byddwn i’n amau bod y gweddill wedi suddo i fewn i’r economi gysgod. Neu wedi allfudo.

Rhywbeth i’w gnoi tra byddwn yn mwynhau’n cinio.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: