Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 25, 2012

Cyn Dêl y Tywydd Trwm (a Wedyn)

Mae fy mhen yn dal i droi a’m traed yn cerdded ar bafin y ddinas fel petawn i o hyd ar fwrdd y llong. Ar ôl sawl mordaith hyfryd oedd yn gwneud i rywun feddwl nad oedd  dim gwirionedd yn enw drwg Bae Vizcaya, roedd y tro hwn yn wahanol. Roedd y Pont Aven yn 15 awr yn hwyr yn gadael Santander oherwydd gwyntoedd cryfion – ond o leiaf gyda’r fferi maen nhw’n gallu gadael pobl i fewn i’w cabanau, does dim rhaid mynd i chwilio am westy.

Y cyhoeddiad cyntaf y bore wedyn wrth inni adael tawelwch Bae Santander oedd bod y deciau allanol ar gau er mwyn diogelwch. Dim ond un cornel bach i’r smygwyr, a fyddai neb oedd ddim yn ysmygu eisiau bod ynghanol hwnnw. Ond erbyn y prynhawn fe lwyddais i gael drws oedd yn agor yng nghwt y llong, a mentro mâs. Diwrnod hyfryd onibai am y gwynt.

Enfys ym Mrig y Don ffoto:cathasturias

Bues i am hydoedd yn tynnu lluniau o’r tonnau a’r enfys byrhoedlog – yn eistedd ar lawr y dec ac yn dal y camera’r ochr arall i’r reilins. Lliw’r môr y glas tywyllaf a welais i erioed. Nes ymlaen, wrth i’r cymylau (a’r gwyntoedd) gynyddu, fe aeth yn ddu fel y glo. Prin iawn oedd y cwsmeriaid yn bwyta cinio neithiwr.

Roeddem ni i fod yn glanio yn Portsmouth, ganol prynhawn Dydd Mawrth, ond yn lle hynny Plymouth oedd hi, a bore Dydd Mercher. Gan ein bod ni ar ein ffordd i Lundain, roedd hyn yn golygu deirawr yn fwy ar yr heol, ond hei ho.

Clod nawr i Brittany Ferries: fe lwyddais i i adael modrwy yn y caban. Ar ôl sylweddoli, gyrrais i ebost atyn nhw.  O fewn hanner awr ces i alwad ffôn i ddweud bod un o’r glanhawyr wedi dod ag ef i’r swyddfa! Sôn am wasanaeth i’r cwsmer – fel ‘na dylai pethau fod.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: