Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 27, 2012

Oes Pleidlais Eto?

Rwy’n cynnig cofnod heddiw yn benodol ar gyfer y rhai sydd wedi bod yn canfasio hyd at syrffed yn y gwynt a’r glaw – na ddeheued gymaint gweld cefn yr etholiad,  mae’n bosib taw megis dechrau bydd yr helynt y diwrnod hwnnw.

Heddiw, roeddwn i wedi addo, y celen ni wybod lliw llywodraeth newydd Asturias. Wel, ie a nage. Gyda llai nag awr i fynd cyn bod yr aelodau newydd-etholedig yn cwrdd am y tro cyntaf er mwyn ethol cyngor rheoli i’r gymuned, daeth penderfyniad Uchel Lys Asturias fel mellten. Roedd y newyddion yn gymysglyd braidd ar y dechrau, ond dyma beth wnaeth y Llys: cynnal honiad FAC ynglŷn â diffygion yn y modd yr oedd rhai o’r pleidleisiau tramor wedi eu cyfri yng ngorllewin Asturias, gyda’r canlyniad bod FAC wedi colli un sedd a’r PSOE wedi ennill un; gorchymyn ail etholiad, dim ond ymysg yr etholwyr tramor (!); rheoli na ddylai aelod ychwanegol y PSOE gymryd ei sedd, na’r hen un FAC chwaith.

44 o aelodau, felly, oedd yn ymgynnull i ddewis llywydd, 2 is-lywydd, a 2 ysgrifennydd. Nhw fel yn gweithredu fel cabinet, ac yn amlwg ddigon doedd dim llawer o gydweld yn mynd i fod wrth eu hethol. Dyma’r canlyniad: yn y gadair, PSOE (chwith), yn ddirprwyon iddo, FAC a PP (y ddwy blaid o’r dde), yn ysgrifenyddion, IU (comiwnyddion) ac UPyD (rhyddfrydol-aidd, neb cweit yn siŵr eto). Eironi yn y ffaith taw dyma yn union – y llywodraethu ar y cŷd – oedd prif ofyniad UPyD, y blaid leiaf.

Ond tri mis ar y mwyaf fydd bywyd y ‘cytundeb’. O fewn y cyfnod hwnnw rhaid i etholwyr allfud yn yr Ariannin, Venezuela, neu lle bynnag, fwrw’u pleidlais eto cyn gawn ni wybod yn derfynol (?) pwy fydd yn rhedeg y sioe. Yn y cyfamser mae cynnydd arall yn nifer y diwaith ac yn y gradd llog mae llywodraeth Sbaen yn gorfod ei dalu am arian tramor. Gobeithio na fydd y pleidleisiau tramor yn costio mwy.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: