Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 28, 2012

O’r Ardd – ac yn y Dŵr

Mae shwd conan wedi bod yn ein tŷ ni – a gan y cymdogion – am y tywydd: ei bod hi mor oer, mor wlyb, mor anarferol – nes imi benderfynu mynd yn ôl drwy’r lluniau a dynnais yn yr ardd tua’r un adeg dros y blynyddoedd diwethaf. Ac yr oedd yr hyn a gefais yn fy syfrdanu, achos un o’r prif gwynwyr ydwyf!

Mae’n ffaith ein bod ni yn nwyrain Asturias wedi dioddef mis o law trwm a thymheredd isel – ond cyn hynny roedd hi’n ‘anarferol’ o sych a thwym. Y canlyniad yw nad ydy’r ffa llydan, er enghraifft, ond yn rhyw wythnos y tu ôl i ble roedden nhw y llynedd ar yr un dyddiad. Mae’r tato yn llawn dail, a’r wynwns a’r cennin a’r garlleg yn ffynnu. Hynny yw, roedd y pethau aeth i fewn i’r tir agored yn gynnar, yn iawn.

Ond. Mae ‘na lefydd gwag yn y lleuarth, ac yn y llefydd gwag mae pyllau o ddŵr. Ni fu’n bosib eto plannu mâs y planhigion sy’n dod nesaf yn rhestr y tymhorau: ffa gwyn/borlotti, letys, courgettes. Ac mae gen i ofn y bydd rhai o’r llysiau gafodd eu hau: moron, panas, pŷs, yn pydru lle maen nhw ac y bydd yn rhaid hau eilwaith.

tegeirian y gwanwyn ffoto:cathasturias

Mae amrywiaeth o un flwyddyn i’r llall wrth gwrs. Yn 2009, roedd y tegeirian cyntaf eisoes yn ei flodau yng nghanol Ebrill. Eleni does ‘na ddim siw na miw eto. Ond mae rhai o’r coed wedi penderfynu na allan nhw aros mwy – y ffigysbren:

Does dim golwg o ddeilen ar y coed cnau Ffrengig, ond o edrych yn ôl rwy’n gweld nad oedd yna’r un chwaith ddechrau mis Mai 2006. Dwi ddim wedi tynnu lluniau o’r un pethau bob blwyddyn, ond efallai byddai hynny’n syniad o hyn ymlaen.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: