Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 29, 2012

Pigion o Wlad y Basg

Yn gyntaf, rhaid imi ymddiheuro (rwy’n rhoi’r bai ar y môr tymhestlog yn ystod ein mordaith drwy Fae Vizcaya) am beidio cofnodi 75mlwyddiant bomio tref Gernika, 26 Ebrill, 1937. Anodd gorddweud pwysigrwydd y drosedd rhyfel hon, yn hanes Gwlad y Basg, Sbaen yn gyffredinol, ac Ewrop yn ystod yr Ail Ryfel Byd. A byddwn yn annog pawb i fynd i weld ‘Gernika’ Picasso pan ddaw’r cyfle – mae murlun ohono yn y dref ei hun.

Cam wrth gam, mae’r dydd yn agosau pan fydd carcharorion ETA, neu yn fanwl gywir y rheiny sydd wedi ymwrthod â thrais fel modd o gyrraedd annibyniaeth, yn cael eu symud i garchardai yn nes at eu cartrefi, ac wedi hynny yn gallu ennill statws carcharor ‘cyffredin’ h.y. gyda mwy o freintiau. Bu gwrthdystiadau teuluoedd a chefnogwyr y carcharorion yn un o’r pethau oedd yn taro pob ymwelydd â Gwlad y Basg. Yn awr mae teuluoedd y rhai a laddwyd gan ETA yn gwrthdystio yn eu tro. Ond roedd rhaid i lywodraeth Rajoy yn Madrid wneud rhywbeth i ymateb i’r newid sylfaenol sydd yn digwydd yn sgîl diwedd ymgyrch arfog ETA, a dyma fe. Beth sydd yn hysbys yw na fydd Madrid yn siarad ag ETA ynglŷn â’r carcharorion, ond yn eu trin fel unigolion. Yng Ngogledd Iwerddon roedd yr egwyddor o ryddhau carcharorion ar drwydded yn rhan o Gytundeb Belfast.

Mae’r pleidiau sydd yn perthyn i Amaiur (clymblaid cenedlaetholwyr adain-chwith) wedi cyhoeddi ymgyrch ‘wleidyddol newydd’ er mwyn cyrraedd eu hamcan o wladwriaeth Fasgaidd fydd yn cynnwys tiroedd ar ddwy ochr y ffin rhwng Sbaen a Ffrainc.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: