Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 2, 2012

Blodau Bach Dewr

Lluniau heddiw. Rhai o flodau’r gwanwyn sydd wedi llwyddo er gwaetha’r glaw. Maen nhw i gyd yn gynefin i’r ardal hon yn nwyrain Asturias, ond nid yr un rhai sy’n flaengar bob blwyddyn.

Clychau’r gog – rhai Sbeinig – yw’r rhain wrth gwrs. Coesynnau byr sydd gyda nhw, ychydig yn dalach na llygad y dydd. A dydyn nhw ddim yn ymestyn eu tiriogaeth: mae’r rhain ym mhen pellaf y lleuarth isaf ac yno’n unig.

Mae glesyn y coed yn gyffredin iawn bob blwyddyn. Ond er gwaetha’i enw Cymraeg, nid yw’n ymddangos ger y coed. Yng nghanol y glaswellt neu ar y tir sydd heb ei amaethu yw ei hoff safle.

botwm crys

A dyma hen ffefryn, y botwm crys. Y llynedd doedd ‘na ddim llawer i’w gweld yn yr ardd, ond eleni mae ymhobman. Tybed ydy’r enw yn dod o’r arfer o wisgo blodyn ar grys – achos welais i erioed fotwm oedd wedi ei rannu’n ddeg!


Responses

  1. Lluniau diddorol. Ydi rhain yn yr ardd?

    • Ydyn – clychau’r gog ym mhen pella’r rhan isaf, glesyn y coed drwyddi draw yn y glaswellt, a’r botwm crys ymysg y creigiau.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: