Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 5, 2012

Heddwch yng Ngwlad y Basg

Er gwaetha’r ffaith fod ETA wedi rhoi’r gorau i’w ymgyrch o fomio a saethu’i ffordd tuag at wladwriaeth i’r Basgiaid, mae’r llywodraeth yn Madrid yn gwrthod trafod y broses heddwch gyda nhw na neb arall. Daw hyn ar ôl i’r Comisiwn Rhyngwladol gyhoeddi ddoe nad yw ETA wedi torri’i air ers dechrau’r cyfnod di-drais (dros 6 mis yn ôl bellach), a hefyd, yn uniongyrchol oddi wrth y mudiad terfysgol, eu bod nhw’n barod i siarad am ‘gamau fyddai’n hwyluso’r ffordd tuag at heddwch’.

Yr unig beth sydd wedi dod o ochr y llywodraeth yw’r cynllun i symud carcharorion ETA – sydd wedi ymwrthod â’r grŵp – yn ôl i Wlad y Basg, a’u trin fel carcharorion cyffredin fel eu bod nhw’n gallu cael eu rhyddhau. Mae’r Comisiwn wedi croesawu hynny, ond dywed Madrid ‘nad yw’n cydnabod’ y Comisiwn a bod ganddyn nhw ‘ddigon o heddlu a lluoedd diogelwch eraill’ er mwyn cael gwybod yn iawn beth mae ETA yn gwneud.

Wrth gwrs, dydy llywodraeth Madrid ddim eisiau gweld Gwlad y Basg yn annibynnol – ond byddwn i’n meddwl eu bod nhw o blaid stâd o heddwch mewn lle sydd yn eu tŷb nhw yn rhan o Sbaen. Sut yn y byd y maen nhw’n disgwyl datblygu’r broses, wn i ddim.

 

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: