Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 6, 2012

Te Coffa Cyfeilles

Bu farw yn gynharach eleni. Ond ddoe oedd ei phenblwydd, felly dyna pryd daethom ni at ein gilydd i goffau Anne. Bu farw’n weddol ifanc, o’r cancr, a hynny o fewn chwe mis o gael gwybod y newyddion drwg. Roedd y ffordd y deliodd hi â’r bywyd byr, poenus, anodd a gafodd hi ar y diwedd yn ysbrydoliaeth. Roedd yn derbyn y cwbl: dim digio, dim anobaith, dim ond penderfyniad i wneud popeth a allai yn ystod yr amser oedd gyda hi.

Ond fel ‘na y bu erioed, yn gafael mewn bywyd ac yn cymryd rhan, fel actores, awdur ac athrawes, nid o fewn y gyfundrefn ysgolion ond gyda’r pobl mwyaf ‘anodd’. Mewn carchardai. Gyda phlant a phobl ifainc dall a byddar. Gyda phlant mewn gofal a phobl ifainc yn byw ar y stryd yn Llundain. Mae sawl un o’r rheiny wedi mynd ymlaen i ddilyn cyrsiau coleg oherwydd y cymorth a gawsan nhw ganddi.

Roedd yn falch o’i hetifeddiaeth Awstriaidd – roedd ei mam, Iddewes, wedi dianc o Vienna ar y funud olaf cyn i’r Nazis gymryd drosodd. A dyna pam roeddem ni’n eistedd yn y Bonnington Cafe yn bwyta apfelstrudel a linzertorte, ac yn cofio Anne fel yr oedd hi yn yr ysgol flynydde’n nôl, fel yr oedd hi gyda’i theulu, a’r cyfeillion lu. Roedd ganddi’r ddawn o symud i le – i fyd – newydd, weithiau o’r dewis ei hunan, weithiau ddim, a gwneud ffrindiau ar unwaith. Roedd hi’n trin pawb gyda pharch a chariad, a mae colled enfawr ar ei hôl.

Penblwydd Hapus, Annie.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: