Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 8, 2012

Arian a Grym y Cymunedau

Mae’r digwyddiadau yn Ffrainc ac yng Ngwlad Groeg wedi ysbrydoli gwleidyddion cymunedau awtonomaidd Sbaen, ac yn enwedig y rhai sydd â ‘r pwerau mwyaf a’r hunaniaeth gryfaf.

Yng Ngwlad y Basg, mae’r cytundeb rhwng y PSOE a’r PP wedi torri lawr yn gyfangwbl ar ôl anghydfod ynglŷn â thoriadau sy’n cael eu gorchymyn o’r canol, gan lywodraeth Rajoy yn Madrid. Mae’r lehendakari (llywydd – o’r PSOE)  yn dal mewn grym ond mewn lleiafrif.Mae e wedi gwrthod galw etholiad cynnar.

Yn Catalunya, mae’r llywodraeth wedi penderfynu mynd i’r llys: mae’n herio mesurau arbed arian ym meysydd addysg ac iechyd am eu bod yn mynd â phwerau o Barcelona yn ôl i Madrid. Maen nhw’n cyhuddo Rajoy o ‘geisio ailganoli dan gysgod arbed arian’. Dyw llywodraeth Catalunya ddim yn rhyw gomiwnyddion gwallgof: plaid o’r dde-canol yw CiU sydd wedi torri digon ei hunan ar wasanaethau cyhoeddus.

Yn Asturias hefyd, mae problemau’r etholiadau yn camu mlaen. Mae FAC (a gollodd) wedi honni bod nifer o bleidleiswyr tramor wedi bwrw pleidlais heb erioed ofyn am un. Mae’r comisiwn etholiadol wedi danfon cwyn i’r barnwyr-ymchwilwyr i weld a oes trosedd wedi ei gyflawni.

Ac mae’r teulu brenhinol wedi penderfynu mynd yn dawel am unwaith: fydd ‘na ddim dathlu swyddogol wythnos nesaf i benblwydd priodas aur y brenin a’r frenhines.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: