Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 9, 2012

Bleiddiaid i Ddenu Ymwelwyr

Mae bleiddiaid ucheldiroedd dwyrain Asturias yn gwneud yn dda. Yn awr eu bod nhw wedi eu diogelu, ers 20 mlynedd a mwy, mae’r boblogaeth yn tyfu ac yn ehangu’i thiroedd. Ond anodd iawn gweld yr anifeiliaid, sydd yn cadw bant o bobl ac yn tueddu i hela gyda’r nos.

Mewn sawl ardal, er enghraifft Zamora yn Sbaen ac mewn gwledydd eraill, mae’n bosib mynd ar wyliau i wylio bleiddiaid – naill ai yn eu cynefin neu mewn rhyw fath o hanner-ryddid – ardal eang gaeedig lle maen nhw’n gallu crwydro ond ddim yn gallu ymosod ar breiddiau.

Yr wythnos hon fe ofynnodd y grŵp sy’n ceisio ailsefydlu’r fwltur barfog yn y Picos de Europa i’r bugeiliaid lleol beth fyddai’u barn nhw am gael ardal fel ‘ny ar ochrau gogleddol y Picos. Dydyn nhw ddim cweit wedi dweud Na, ond yn ôl adroddiadau o’r cyfarfod yr adwaith oedd: tria rhywle arall. Heb eu caniatad nhw, ni fydd yn bosib, achos nhw a’u pentrefi sy’n rheoli’r tir.

Mae’n hawdd deall pam fod y ffermwyr yn ofni datblygiad fel hyn: does dim amheuaeth bod bleiddiaid yn lladd ŵyn a hyd yn oed lloi. Ac mae’n bosib dadlau hefyd taw dim ond y gwyliau ‘bleiddiaid yn eu cynefin’ sy’n ddilys. Ond dyw’r rhan fwyaf o bobl fyth yn mynd i fentro ar un o’r rheina, ac yn bersonol rwy’n ei weld e’n drueni taw dim ond yn y sŵ y bydd ymwelwyr yn gweld bleiddiad. Rwyf i wedi bod yno. Dydyn nhw ddim yn llonydd. Camu nôl a mlaen fel carcharorion. Byddai hanner- ryddid – e.e. i anifeiliaid sydd wedi cael anaf – yn rhoi cyfle i’w gweld fel anifeiliad gwyllt.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: