Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 11, 2012

Pam Achub y Banciau?

Doeddwn i ddim yn siŵr a ddylwn i ganolbyntio ar broblemau banciau Sbaen heddiw, gan fod, am unwaith, digon amdanyn nhw yn y cyfryngau ledled Ewrop. ond o’r hyn yr wyf wedi ei ddarllen, darnau yn edrych yn gul iawn ar gyhoeddiad y llywodraeth heddiw ydyn nhw, felly bant â ni:

Mae llywodraeth Rajoy yn Madrid yn amlwg wedi ei dychryn wrth feddwl y gallai banc mawr gwympo. Dyna pam maen nhw’n barod i fenthyg arian nid yn unig i Bankia, yr un sydd â’r problemau mwyaf, ond i’r gweddill. Yn fwy na hynny, byddan nhw’n gorfodi’r banciau naill ai i godi cyfalaf eu hunain neu i fenthyg gan yr wladwriaeth, er mwyn cynyddu’u cronfeydd yn erbyn y benthyciadau gwael (twp/troseddol) a wnaethon nhw i gwmniau adeiladu ddeng mlynedd yn ôl. Ac yn wahanol i Fanc Canolog Ewrop, ni fydd yr arian a geir gan lywodraeth Sbaen yn rhad: maen nhw’n sôn am lôg o 10%.

Heddiw hefyd mae Comisiwn Ewrop wedi awgrymu’n gryf y bydd yn gofyn mwy o ‘newidadau’ – toriadau neu drethi – gan Sbaen er mwyn iddi allu dod â’r diffyg i lawr i’r hyn y mae Ewrop ei eisiau. A hyn oddi wrth yr un un Olli Rehn oedd, lai nag wythnos yn ôl, yn gwneud araith yn dweud yn eglur ‘bod polisiau cyhoeddus ar waith i hyrwyddo tyfiant cynaliadwy yr un mor bwysig’ â chael y diffyg i lawr. Sut mae mwy o drethi na mwy o doriadau yn mynd i hybu tyfiant yn Sbaen, cynaliadwy neu beidio, sdim syniad gyda fi.

Beth sydd wedi digwydd, dros y degawd diwethaf, yw bod yr ugeiniau o fanciau bach Sbeinig wedi dechrau dod at ei gilydd yn fanciau mwy, a rhai erbyn hyn yn fawr iawn – yn ‘rhy fawr i fethu’. Ond gyda Bankia, e.e., lle disgwylir y bydd y llywodraeth yn menthyg digon o arian i fod yn brif gyfranddaliwr y banc, fe ellid gnweud rhywbeth rall – rhannu’r banc eto. Gadael i un rhan – neu fwy – i ffaelu. Wedi’r cwbl, ar ran y banciau yr oedd y camgymeriad yn y lle cyntaf: pam fod rhaid diogelu pob un ohonyn nhw?

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: