Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 12, 2012

Senedd Newydd Asturias

Bydd senedd newydd Asturias yn cyfarfod ymhen 10 diwrnod gyda’r holl (45) o aelodau’n bresennol i ethol llywydd. Ddoe fe benderfynodd Llys y Cyfansoddiad yn Madrid y dylai’r PSOE gael y sedd y bu’r holl anghydfod yn ei chylch. (Yn fras: roedd cyfraniad y bleidlais dramor at holl bleidleisiau’r PSOE yng ngorllewin Asturias wedi rhoi’r sedd olaf iddyn nhw. Honnodd FAC, a fyddai wedi cael y sedd onibai am y bleidlais dramor, nad oedd rhai o’r pleidleisiau’n ddilys. Apêl gyntaf, i gomisiwn etholiadol Asturias: o blaid PSOE. Ail apêl, i uchel lys Asturias: o blaid FAC. Trydydd ac olaf, i Lys y Cyfansoddiad: o blaid y PSOE.)

Sy’n ein gadael ni gyda 22 aelod ar y chwith a 22 ar y dde. Ac un, cynrychiolydd y blaid newydd UPyD, yn y canol. Yn llythrennol felly, achos rhan bwysig o raglen y blaid hon yw canoligrwydd a chanoleiddio. Yr hyn y mae’i haelod wedi gofyn i’r ddwy ochr er mwyn sicrhau ei gefnogaeth ef, newid ardaloedd etholiadol Asturias. Cael gwared ar y ddwy sy’n cynnwys yr ardaloedd gwledig, yn y dwyrain a’r gorllewin, a’n rhoi ni gyd i fewn gyda dinasoedd y canol. Heddiw mae’r PP (fydd gyda FAC ar ochr dde y senedd newydd) ar lefel Sbeinig wedi gwrthod y syniad, felly hefyd dridiau’nôl y PSOE yn Asturias.

Mwy o drafodaethau felly rhwng pawb, ond mae’n edrych yn annhebyg iawn y bydd UPyD yn clymbleidio gyda neb.  Y cwestiwn felly yw: pwy fydd yn cael ei hunig bleidlais wrth ethol llywydd?

Newydd Dorri: mae’r trysorlys yn Madrid yn ‘ystyried’ a ddylai gymryd drosodd cyfrifon Asturias am ei fod yn poeni ‘na fydd y diffyg yn cael ei dorri’n ddigonol’.  Mae llywodraeth Rajoy wedi gwneud yn amlwg y bydd yn ymddiddori lot fwy ym materion cyllid y cymunedau.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: