Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 15, 2012

Torri neu Wario?

Mae arafu llong fawr – heb sôn am ei throi – yn cymryd amser.  Ar fwrdd y llong enfawr ‘Europa’ mae gyda ni nawr un swyddog – François Hollande – sydd am ddilyn cyfeiriad arall, a grŵp o forwyr terfysglyd Groegaidd i lawr yn y perfeddion. Ond mae Capten Merkel eto’n annog mwy o dorri, llai o wario er mwyn cyrraedd y lan.

Ac mae gwleidyddion Sbaen, yn ganolog ac yn y cymunedau, yn dilyn ei gorchymyn. Heddiw mae llywodraeth Catalunya (cenedlaetholwyr, de-canol) wedi cyhoeddi ei thrydydd cyfnod o dorri: €1.5bn y tro yma, sy’n gwneud cyfanswm (mewn blwyddyn a hanner) o €5bn wedi diflannu o economi Catalunya. Mae sôn y bydd Andalucia (PSOE) yn gwneud rhywbeth tebyg. Ddoe yn y gymuned honno fe adawyd baban, merch fach newydd ei geni, ar drothwy ysgol feithrin gyda nodyn yn esbonio nad oedd gan ei mam gartref na gwaith a’i bod yn ffaelu gofalu amdani.

Ar yr un pryd â thorri gwario cyhoeddus, mae’r llywodraeth yn gorfodi’r banciau i gynyddu’u cronfeydd (el colchón – y matres – dim ond cushion yw hi yn Saesneg) rhag y dyledion drwg. Mae angen yr arian yma ar y stryd, yn y ffatri, ar y fferm ac yn y gwesty. Mae diogelu’r banciau wedi dod yn ddiben ynddo’i hun, ond rhaid gofyn yn awr : beth yw pwynt banc? Gofalu am ein cynilion prin, ie. Ond hefyd menthyg, am bris, i bobl sy’n gallu gwneud mwy ohono fe. Wrth anwybyddu hynny, mae’r bobl sy’n honni eu bod yn diogelu cyfalafiaeth mewn gwirionedd yn ei newynu.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: