Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 16, 2012

Eirlithriad!

Gan fod llygaid y byd ar yr € heddiw, a minnau heb yr amser na’r adnoddau i ddilyn y stori fesul munud, rwy’n ei adael naill ochr ac yn edrych unwaith eto ar y Picos de Europa, mynyddoedd uchel, serth a gwyllt yn ne-ddwyrain Asturias a thros y ffin i Cantábria a León. Dyw eirlithriad mawr ddim yn beth cyffredin yn y Picos, er y  bu farw dringwr o Fasgwr ddwy flynedd yn ôl yn ardal orllewinol y parc cenedlaethol.

Ond heddiw mae’r papur lleol La Nueva España wedi cyhoeddi llun a hanes un enfawr a gwympodd, wythnos yn ôl yn awr, uwchben pentref Bulnes.

dwy ran Bulnes ffoto:cathasturias

Mae’r llun yn dangos Bulnes-La Villa (lle mae’r bont dros yr afon, i’r rhai sydd wedi bod yno), a Bulnes Arriba ar y bryn uwchben. Yn y rhan uchaf ar y chwith fe welir y llwybr sy’n dod i lawr o’r uchelderau, ac ychydig i’r chwith o hwnnw, tu cefn i’r coed, yr oedd yr eirlithriad. Os glici di ar y ddolen i’r papur mae i weld yn blaen, ond dwi ddim wedi bod yno!

Mae’r cwymp ei hun yn edrych fel pridd yn y llun, ond yn ôl yr erthygl o’i weld yn agos eira yw’r rhan fwyaf, ac yn 5m o uchder. Yn ffodus ni chafodd neb niwed, achos mae’r llwybr yn cael ei ddefnyddio gan fugeiliaid yn ogystal â dringwyr sy’n croesi’r massif ac yn aros yn y cytiau. Yn ôl un o drigolion Bulnes, a hithau’n 94 mlwydd oed, does na’r un eirlithriad o’r maint wedi digwydd yn ystod ei hoes hi. (Na, dwi ddim yn gwybod a yw hi wedi cerdded lan i’w weld e – ond rwyf i wedi cwrdd â hi, a buaswn ddim yn mentro dweud na allai hi.)

Gobeithio cawn ni amser i fynd i gerdded wythnos nesaf.


Responses

  1. Diddorol gweld y lluniau i ninnau wedi cerdded y llwybr hwn llynedd.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: