Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 19, 2012

Mewn neu Mâs?

Ar y tu fewn yn trin yr (ychydig) arian? Neu ar y tu fâs yn gwrthwynebu?

Fel sawl plaid fach o’r blaen, mae Izquierda Unida yn Asturias mewn cyfyng gyngor. Plaid ar y chwith yw IU, wedi ei geni yn 80au’r ganrif ddiwethaf o uniad comiwnyddion a phleidiau sosialaidd eraill. Mae ganddi 5 aelod yn senedd newydd Asturias, a doedd dim dadlau eu bod nhw’n mynd i gefnogi’r PSOE wrth ethol llywydd, er mwyn cael llywodraeth gymunedol sosialaidd. Ond a ddylai ymuno yn y llywodraeth honno, derbyn swyddi fel gweinidogion ac ati?

Ond mae aelodau’r blaid yn dadlau ynglŷn â faint o gydweithredu ddylai fod o hyn ymlaen. Dywed rhai, y delfrydwyr, fod rhaid cadw bant. Nad ydy’r PSOE ond yn blaid ganolog o dan enw’r chwith ac y bydd yn bownd o wneud yr un un toriadau â phleidiau’r dde, ac na ddylai IU roi sglein gwir sosialaeth arni. Taw drwy wrthwynebu a dadlau yn y senedd ac ar y stryd y bydd polisiau’n cael eu newid. Ei bod yn bosib cefnogi’r PSOE ar rai bynciau a gwrthwynebu eraill.

Na, medd eraill. Os mêts, mêts. Bydd y chwith yn gryfach, a chalon a dewrder y PSOE yn cael ei atgyfnerthu, o gael IU yn rhan hanfodol o’r broses. Taw’r sefyllfa ariannol yw’r peth mwyaf pwysig, y peth sy’n gallu tanseilio holl bolisiau addysg, iechyd a gwaith. A bod yn rhaid cipio’r cyfle i gael dylanwad ar fywyd y bobl.

Mae yna un peth arall fydd yn cael ei bwyso wrth benderfynu: safle UPyD. Y blaid lleiaf, gyda dim ond un aelod yn y senedd. Ond wedi dod i gytundeb gyda’r PSOE ac felly i ba raddau bynnag yn ‘rhan o’r tîm’. Mae UPyD o blaid cau’r pyllau glo. Nawr. Yng nghymoedd y glo mae cadarnleoedd IU.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: