Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 20, 2012

Perthyn i Ewrop

Da yw cael amser weithiau i hel meddyliau. Wrth gerdded – nid yn y mynyddoedd, ond ar y ffordd i’r siop neu rywbeth – y byddaf yn gwneud hynny fwyaf. A’r bore ‘ma bues i’n meddwl am hunaniaeth, pwy wyf i, ac i ble rwy’n perthyn. Cofio addewid yr Urdd slawer dydd, “Cymru, Cyd-ddyn, Crist’ : tair haenen sydd gyda fi hefyd. Cymru, Ewrop, y byd.

Cymru: sdim eisiau trafod nag oes? Bydd syniadau pobl o beth sy’n gymwys yn wahanol, ond bydd pawb yn teimlo eu bod yn perthyn.

y byd: gobeithio’n wir nad oes llawer sy’n meddwl am Gymru nid yn bennaf ond yn unig. Os ydym ni wedi dysgu unrhyw beth yn ystod y ganrif ddiwethaf (ers y Rhyfel Byd Cyntaf) rwy’n credu taw’r we o berthnasau hanesyddol, masnachol, gwleidyddol, ie a chrefyddol sydd rhwng pobl y byd a’u gwledydd. A thu cefn ac o dan bopeth, yr amgylchedd.

Ewrop: fan hyn rwy’n siŵr y bydd llawer un, ac efallai’r mwyafrif, yn anghytuno â fi. Rwyf i yn teimlo fy mod yn perthyn i Ewrop. Ugain mlynedd yn ôl pan welais i fideos pobl Bosnia a gwledydd eraill y Balcan yn cael eu gyrru o’u cartrefi – weithiau gan filwyr, weithiau gan eu cymdogion; pan welais i nhw’n cerdded yn deuluoedd bach neu yn finteioedd dros y mynyddoedd, yn gwisgo dillad a sgidiau oedd yn gweddu pafin nid creigiau, yn cario popeth a allen nhw;  roeddwn yn teimlo eu bod nhw o’r un teulu, mewn ffordd agosach na thrigolion rhannau eraill o’r byd.

Pwrpas cyntaf a phrif amcan yr Undeb Ewropeaidd oedd sicrhau na fyddai gwaed rhyfel yn gorlifo gwledydd (gorllewin) Ewrop fel y gwnaeth ddwywaith o fewn 30 mlynedd. Dyna’n rhesymol pam fyddai rhywun o blaid y peth. Ond yn amlwg roedd fy adwaith i yn fwy personol, a’r bore ‘ma daeth i ‘mhen pam fod hynny’n wir.

Cefais fy magu mewn ardal Gymraeg a Chymreig. Ond es i’r ysgol gynradd Gatholig, ymhlith bechgyn a merched oedd yn blant i gyn-garcharorion rhyfel (o’r Eidal) neu’n gyn-filwyr neu ffoaduriaid (o Wlad Pwyl a hyd yn oed Hwngari). Doedd ‘na ddim drwg-deimlad rhynddom ni. Doeddem ni ddim yn gweld dim byd rhyfedd mewn clywed enwau fel Romeo a Bogdan a Silvana yn cael eu galw ar ddechrau diwrnod. Roedd y rhyfel drosodd ers blynyddoedd, roedd pethau’n gwella.

Am 7 mlynedd, felly, a hynny yn y cyfnod pan fydd plentyn yn dysgu meddwl, roeddwn yn byw mewn byd rhyngwladol, Ewropeaidd. Y cwestiwn yn awr yw a fydd plant a phobl ifainc heddiw, sydd, diolch i’r dechnoleg, wedi cael cymaint o brofiad o’r byd tramor â fi –  ond mewn ffordd llai dwys, efallai – yn dod i’r un casgliad.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: