Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 21, 2012

Pigion yr Economi

Bydd Sbaen yn aros o fewn y dirwasgiad yn ail chwarter y flwyddyn, yn ôl gweinidog economi llywodraeth Mariano Rajoy.  Ond mae e’n mynnu nad oes angen achub banciau’r wlad, er bod eisiau €7.5bn i sicrhau bodolaeth Bankia, y banc a gollodd gymaint o’i werth yr wythnos ddiwethaf.

Mae canghellor yr Almaen Angela Merkel wedi dod fel un o’r tylwyth teg a gwireddu dymuniad y prif weinidog Rajoy: bydd e yn cael mynd i uwchgynhadledd yn Rhufain ym mis Mehefin i drafod dyfodol ardal yr ewro. I ddechrau dim ond arweinwyr Ffrainc a’r Almaen oedd wedi cael eu gwahodd. Tybed a yw Merkel yn teimlo angen atgyfnerthu’i hochr hi yn y ddadl nawr bod François Hollande yn arlywydd Ffrainc?

Rhai o fanylion economi Sbaen: y sector adeiladu yn dal i fod ar ei golled: i lawr 1.8% yn ystod mis Mawrth yn unig, bron i 11% dros y flwyddyn. Oni fyddai’n well i’r llywodraeth(au) dalu pobl i weithio ar gynlluniau sydd eu hangen, yn hytrach na thalu iddyn nhw am beidio gweithio?

Mae pennaeth porthladd Gijon wedi danfon ei ysgrifenyddes i Tseina i ddysgu’r iaith Mandarin. Gwnaeth e hynny am fod y rhan fwyaf o’r llongau newyddau sy’n cyrraedd y dyddiau yma yn dod o Tseina. Digon teg, bydd rhywun yno nawr fydd yn gallu ateb y ffôn – ond beth am y bobl sy’n delio gyda’r capteiniaid o ddydd i ddydd? Efallai y dylen nhw ystyried rhoi dosbarthiadau Mandarin yn y porthladd, yn lle disgwyl i un fenyw fod yn unig gynrychiolydd y porthladd.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: