Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 22, 2012

Cyfnod Newydd?

O’r diwedd, mae llywodraeth newydd gyda ni yn Asturias. O leiaf, mae’r gŵr a fydd yn arwain y llywodraeth honno wedi gwneud ei araith gyntaf yn seremoni’r arwisgo. Yfory bydd y pleiediau eraill yn cael ymateb, a dyna ni. Mae’r cyntundebau wedi eu gwneud, ac yn araith Javier Fernández (PSOE) doedd ‘na ddim by fyddai’n hala ofn ar neb a gwneud iddyn nhw ailfeddwl hynny.

Araith i blesio pawb oedd hi; yn sôn am gadw’r wladwriaeth les ac eto’n addo peidio â mynd i’r gad yn erbyn llywodraeth (PP) Sbaen. Cawsom ni rybudd am ‘gyni’ ac  am fwy o doriadau, ond eto pwysleisio ar ran y gweithwyr sy’n cael eu talu o arian y dreth: nid gweision suful yn unig wrth gwrs, ond athrawon a meddygon.

Fydd fawr o gyfle gydag ef mewn gwirionedd i wneud dim byd ond cydymffurfio â dymuniadau’r pris weinidog Rajoy: mae’r llywodraeth ganolog wedi cymryd ati’i hun bwerau dros y cymunedau nad oedd ddim yno o’r blaen, yn enwedig yn y meysydd pwysig hynny, addysg ac iechyd. A doedd dim sôn, o leiaf heddiw, am herio’r penderfyniadau hynny yn y llys fel mae cymunedau mwy (Gwlad y Basg a Catalunya) .

Y broblem fwyaf wrth gwrs fydd yr economi. Mae eisoes wedi gofyn i Madrid am fwy o amser i gyrraedd y toriadau y maen nhw wedi gosod. Mae Madrid wedi gwrthod hynny, er gwaetha’r ffaith fod Asturias wedi bod heb lywodraeth ers bron i ddeufis. Ar yr un pryd mae Madrid yn gofyn i Frwsel am fwy o amser i gyrraedd eu gofynion nhw ym maes gwario cyhoeddus. Tegwch i bawb? Dim fan hyn.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: