Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 23, 2012

Hyd at y Glaw – Adolygiad Ffilm

Wedi arfer â meddwl am Ken Loach fel cyfarwyddwr unigryw, ond dyma ffilm wedi ei gwneud yn ei draddodiad ef. Ymddangosodd También la Lluvia (Hyd at y Glaw) ddwy flynedd yn ôl, ond mae i gael ar DVD nawr. Iciar Bollain sy’n cyfarwyddo; hi chwaraeodd ran Maite yn Tierra y Libertad  (Tir a Rhyddid), ffilm wedi ei lleoli yn rhyfel Sbaen sy’n un o gampweithiau Loach. Paul Laverty, yr Albanwr a sgriptiodd honno a The Wind that Shakes the Barley, sy’n gyfrifol am yr ysgrifennu yma eto.

Ffilm o fewn ffilm yw hi: hanes criw sydd wedi dewis Bolivia (am ei fod yn lle rhad) i saethu ffilm am ddyddiau Columbus yn yr Amerig, a’r ffordd yr oedd yn trin y brodorion. Ond mae brodorion dinas Cochebamba, yr extras, yn brwydro yn erbyn preifateiddio dŵr: cymryd oddi wrthym ni hyd at y glaw. Mae un yn chwarae rhan flaenllaw yn y ffilm ac yn yr ymgyrch, ac mae’r ddau beth wedi eu plethu’n net. Mae hefyd menyw sy’n gwneud ffilm am y ffilm, ond mae honno’n un llinyn yn ormod, heb bwrpas: rwy’n credu byddai unrhyw un yn gweld y cyferbynnu rhwng yr hanes a’r heddiw hebddi.

Wrth bod y brotest yn cynyddu a’r sefyllfa yn gwaethygu, mae’r cymeriadau o blith yr actorion a’r criw fel petai’n newid gwisg. Yr ifainc delfrydol yn cael ofn ac yn ceisio dianc, yr hen siniciaid yn gwneud pethau ymarferol i helpu’r brodorion. Ffilm sydd wedi ei chreu yn gelfydd iawn, ac yn adrodd hanes bwysig, ond heb fflach crebwyll Ken Loach. Efallai ei fod e yn unigryw wedi’r cyfan.

Diddorol sylwi hefyd taw yn y protestiadau yn Cochebamba y daeth Evo Morales i’r amlwg. Fe ymunodd a a’i gymdeithas o ffermwyr coca â’r gwrthdystiadiau: o fewn pum mlynedd fe oedd arlywydd Bolivia.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: