Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 24, 2012

Yn eu Blodau

Lluniau o’r ardd heddiw: wedi bod yn chwynnu a chlirio (eto!) drwy’r dydd mae’r ymennydd yn gwrthod meddwl rhagor amdano. Sibrwd: byddwn yn gwneud yr un peth yfory. Mae glaw ddechrau’r mis a haul y tridiau diwethaf wedi chwyddo’r llystyfiant fel balŵn.

rhosmari a saets ffoto:cathasturias

Rhain yw sgerbwd gardd y perlysiau, ond yn awr tua diwedd y gwanwyn/dechrau haf maen nhw’n odidog. Mae’r ddau lwyn yn cael eu tocio’n galed yn yr hydref, er mwyn eu cadw tua’r un maint a siâp. Cyfrinach: mae gyda ni saets arall sy’n well o rhan coginio, ond dyw e ddim yn blodeuo. Mae hwn yn ennill ei le wrth ei liw.

Troed y golomen yw enw’r planhigyn hardd yma, blodyn brodorol, gwyllt sy’n tyfu mewn tri lle tra gwahanol o fewn yr ardd: ar riw serth, yma o dan y coed, ac wrth ochr y tŷ gwydr. Ac yn wahanol i’r rhai oedd gyda fi mewn gerddi o’r blaen, mae’r lliw yn aros yn driw, yn fythol-las.

Mae’r helianthemum, blodyn yr haul, yn cael blwyddyn da eleni. Mae hwn hefyd yn frodorol, ac yn arbenigo mewn llecynnau creigiog – ac wrth gwrs, heulog. Mae wastod rhywbeth newydd i’w weld wrth edrych ar y tyfiant gwyllt: heno des i ar draws tegeirian y gwenynen (heb agor eto) reit yng nghanol gardd y perlysiau. Braint yw cael rhannu’r lle gyda phethau fel hyn: bron imi anghofio am y rhai dwi ddim eisiau, y chwyn.

 


Responses

  1. Tegeirian y gwenyn yn hardd tydi. Mae’n tyfu ar warchodfa Morfa Harlech efo blodau eraill rhyfeddol o brydferth fel trilliw y twyni (Viola tricolor). Mae blodau gwyllt yn curo hybrids gerddi bob tro i mi.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: