Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 25, 2012

Adwaith i Anobaith

Gwaethygu mae’r economi ym mhob ran o Sbaen. Mae’r glowyr yma yn Asturias ac yn León wedi cau sawl traffordd a chynnau tanau arnyn nhw gyda hen deiars. Maen nhw’n agos iawn i anobaith: pan ddaw terfyn ar dwy draean o’r cymorthdaliadau ddiwedd y flwyddyn, fe fydd y rhan fwyaf o byllau glo gogledd Sbaen yn amhosib eu rhedeg a gwneud elw. Digon teg, does na neb eisiau glo beth bynnag? Ond rydym ni’n sôn am gymunedau, trefi a phentrefi, yn bell oddi wrth y dinasoedd mawr, lle nad oes na dim byd arall ond y pwll. Ycydig o amaethyddiaeth, llai o dwristiaeth, a dyna’r cwbl. Fe ddaeth teuluoedd rhai o’r gwŷr yma o rannau eraill o Sbaen ddwy genhedlaeth yn ôl i chwilio am waith; yn awr bydd rhaid i’r wyrion wneud yr un daith.

Ar lefel lleol, heddiw yn y farchnad, am y tro cyntaf erioed, fe weles i ddyn hollol gyffredin – h.y., nid yn gitano nad yn alcoholig – yn cardota ar gornel stryd. Doedd e ddim yn edrych ar y bobl oedd yn mynd heibio. Dim ond yn eistedd ar y pafin, â’i ben i lawr yn anobeithiol, a het o’i flaen gyda cherdyn yn dweud ei fod e mâs o waith ac yn ffaelu fforddio bwyd i’r teulu. Roedd pobl yn rhoi arian iddo – ond pan welais i fe doedd ganddo ddim digon i orchuddio gwaelod yr het.

Dau adwaith gwahanol iawn i’r un broblem. Tybed pa un fydd fwyaf cyffredin dros y misoedd nesaf.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: