Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 26, 2012

Rhyfeddodau’r Ardd

Diwrnod tipyn bach yn ysgafnach yn yr ardd heddiw, gan gymryd digon o amser i eistedd ac edrych o’m cwmpas, ac i wylio boncath yn cylchu’n araf ac yn uchel. Popeth yn dawel: weithiau maen nhw’n galw, yn swnio rhywbeth tebyg i gath, ond roedd hwn yn dawedog.  Rhyfeddod 1: eu bod nhw’n gallu gweld eu prae a nhwythau mor bell i ffwrdd.

Roedd rhyfeddod 2 yn aros amdanaf pan ddringais i lan i ran ucha’r ardd. Mae pawb wedi cael hwyl yn hongian carreg afocado uwch glased o ddŵr a’i weld yn egino. Fan hyn maen nhw’n egino ac yn tyfu yn y domen gompost, ac mae dwy neu dair coeden gyda ni erbyn hyn, yr hynaf tua 5-6 mlwydd oed. Ond tan eleni, dim un blodyn:

Does dim llawer, ond hei, o’r diwedd mae gyda ni obaith bwyta’n afocados ein hunain. Maen nhw yn tyfu yn yr ardal, ond roeddwn i wedi deall eu bod yn cymryd blynyddoedd lawer i ddod yn ffrwythlon.

Yn uwch eto, i’r goeden lemwn. Nid yr hen un, mae honno’n edrych yn wael iawn er gwaetha’r carco (maldod) mae wedi cael. Ar un o’r rhai ifanc roedd Rhyfeddod 3: y ffrwyth anhygoel hwn:

Mae hwn wedi tyfu talpiau i bob cyfeiriad, fel y cidri sydd i’w weld ym marchnadoedd de’r Eidal. 16cm o hyd ac yn pwyso dri chwarter kilo! Bydd rhaid imi gofio ddiweddaru’r cofnod hwn pan dorra’i fe, i nodi faint o sudd sydd ynddo.

Mae wedi dechrau bwrw glaw yn ystod yr hanner awr ddiwethaf, ac yn wir mae ei angen ar y lleuarth. Ond nid gormod, diolch, mae gyda fi restr o bethau i’w gwneud yfory.


Responses

  1. Ma hwnna’n lemwn a hanner!

    • Ody – ma lot ohonyn nhw’n cyrraedd maint eitha mawr ond ma hwn yn eithriad. Fel arfer bydd y croen gwyn (o dan y melyn) yn drwchus, ond digonedd o sudd gyda nhw.

  2. Diddorol darllen am y bwncathod wedi cael penwythnos yn ogledd Ceredigion llawr yno hefyd a barcud coch. Hefyd gwelsom geiliog bod tinwen.

    • Sdim llawer o’r rheiny i gael nag oes? Beth sydd eisie imi wneud yw cymryd mwy o amser a phrynu sgôp i gael nabod yr adar yn well.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: