Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 27, 2012

Pigion Dydd Sul

Dau o aelodau honedig ETA wedi eu harestio yn Ffrainc: dywed yr heddlu fod un ohonyn nhw yn ‘bennaeth adran filitaraidd’ y grŵp o derfysgwyr Basg. Mae rhywun yn dechrau gofyn faint ohonyn nhw sydd ar ôl â’u traed yn rhydd. Mae trafodaethau ynglŷn â phryd a sut y bydd carcharorion ETA yn Sbaen yn cael eu symud yn agosach i’w cartrefi yn parhau.

Cynhadledd o arweinwyr cynghorau’r ardaloedd glofaol ar draws Sbaen wedi gofyn i’r llywodraeth gwblhau’r gweithredoedd sy’n dod o dan cronfeydd y glo y flwyddyn hon, ac edrych eto ar beth fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf. Yr ofn yw y bydd y rhan fwyaf helaeth o’r pyllau glo yn cau cyn hynny o golli eu comorthdal, ac nad oes gwaith arall i gael yn y cymoedd.

Bydd yr arian sy’n cael ei roi gan lywodraeth Sbaen i gadw banc Bankia rhag cwympo’n ddarnau ddim ar ffurf arian parod, ond mewn gwarantau o eiddo’r wladwriaeth. Y gobaith yw y bydd hyn yn rhwystro’r marchnadoedd arian rhag adweithio drwy werthu/dibrisio cyfranddaliadau’r banc. Cawn ni weld yfory.

Mae’r sefyllfa economaidd hyd yn oed yn dechrau cael effaith ar fiestas pentrefi. Yr haf yma bydd rhaid chwilio am grwpiau llai (a rhatach) ar gyfer y dawnsfeydd, a chwtogi amserlen y dathlu. Mae gyda fi syniad y bydd pawb yn dal i gael hwyl.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: