Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 28, 2012

Am Dro i’r Môr

Heddiw es i am dro i lawr tua’r penrhyn, un o’r llefydd cyntaf inni ymweld ag ef pan ddaethom ni yma yn chwilio am dŷ. Ceg y Guadamía yn agor tua’r Iwerydd. Lliwiau cynefin: y ddau las, a’r llwyd.

Roedd y môr yn dawel am unwaith: y creigiau isel fel traed eliffantod yw lle mae percebes a chregyn gleision i’w cael. Hawdd deall pam fydd nifer o bysgotwyr yn colli bywyd bob blwyddyn ar hyd arfordir gogledd-orllewin Sbaen.

Mae’r wythnosau o law, ac yna wythnos o haul, wedi dod â’r blodau yn llu. Yr holl ffordd ilawr yr heol fach roedd y banciau’n llawn helianthemum, lithodora, a gwiberlys.

Rwyf i wedi gadael y llun yn eitha llydan achos bod cymaint o flodau i’w gweld ynddo – mae’n siŵr y bydd yn rhaid clico arno i edrych yn fanwl. Cymaint o lystyfiant, roedd e’n atgoffa fi o gerdded adre o’r bws ysgol slawer dydd ar hyd lôn tebyg iawn rhwng caeau gwair – ond hyd yn oed bryd hynny, doedd dim 10% o’r gwahanol mathau o flodau i’w gweld yn fy rhan fach i o dde-orllewin Cymru. Gormod o gemegau?

 


Responses

  1. Dim yn siwr be di’r blodau. Tywydd yn rhyfeddol yma ar hyn o bryd. Wedi bod yn stelcian yng Ngwm Idwal chwilio am flodau Arctic Alpine. Mor brin yn Eryri ond dros y lle yn Austurias!

    • Dim byd anghyffredin – helianthemum ac ati – ond roeddwn i’n ceisio rhoi argraff o gymaint ohonyn nhw sydd! Mae cyfaill inni wedi llwyddo i gael hadau linaria filicaulis i egino yn yr ardd.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: