Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 31, 2012

Ieithoedd Llyfrau

Neithiwr es i gyfarfod o glwb llyfrau yn y dref gyfagos. Doeddwn i erioed wedi bod yno o’r blaen – â dweud y gwir dim ond ers rhai misoedd  mae’n bodoli. Cefais i wahoddiad gan gymydog am fod y grwp yn trafod Chwedlau’r Annisgwyliedig Roald Dahl. Roedden nhw’n ymwybodol ei fod yn Gymro ac yn gobeithio y byddwn i’n gallu ychwanegu peth wybodaeth at yr hyn oedd gyda nhw. Gydag awr o ‘ymchwil’ fe lwyddais i roi digon at ei gilydd ( ffaelu gwneud mwy achos cwymp y band-eang – gweler cofnod ddoe).

Pan welais i restr y llyfrau sydd i’w trafod yn y cyfarfodydd nesaf, roeddwn yn synnu cymaint ohonyn nhw oedd yn estron, wedi eu cyfieithu. Y mwyafrif. Es i ati i chwilio o gwmpas y pwnc, a chael rhestr El País o 25 o lyfrau gorau’r flwyddyn ddiwethaf yn eu barn nhw – 14 o’r 25 wedi eu cyfieithu. Rhai o’r Saesneg, o’r DU a’r UDA, ond hefyd o’r Ffrangeg, Almaeneg, ieithoedd y Llychlyn, Rwseg ac Eidaleg. Ac mae’r un peth yn wir am y nofelau sydd ar werth mewn maes awyr neu orsaf trên: nofelau cariad, nofelau llofruddiaeth, nofelau rhyfel: y rhan fwyaf wedi eu cyfieithu.

Mae gyda fi barch mawr tuag at unrhyw un sy’n gallu cyfieithu llenyddiaeth; nid yn unig cael yr iaith yn gywir ond hefyd y meddyliau a’r argymelliadau. Y ‘pwy sy’n gwybod beth a phryd maen nhw’n ei wybod?’

Ond beth does neb wedi gallu egluro imi eto yw pam fod y Sbaenwyr mor barod i dderbyn llenyddiaeth dramor. Mae digon yn cael ei gyhoeddi yn ieithoedd y penrhyn Iberaidd bob blwyddyn i lenwi silffoedd lawer. A rhaid nodi nad oes dim llawer eto’n cael ei gyfieithu o ieithoedd Asia. Ond fe ddaw hynny rwy’n siŵr.

Llyfr nesaf y grŵp? Trosedd a Chosb. I’w ddarllen mewn mis. Ow.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: